1Brysia, Naf, attaf, ni dhowtiais, — Eurner;
Can’s arnat y gelwais:
Clyw o nef fy llef a’m llais,
A llafur mawr y llefais.
2I’th ŵydh di gwedhi dragwydhol, — rugl-dasg,
Bid arogl‐darth nefol;
Fal offrwm cawn brydnhawnol,
Codiad yno ’nwylo ’n ol.
3Dod gadwad gwiwrad, gorau, — Duw, gwedi,
Da i gadw fy ngenau:
A chadw di dhrws, mwyndlws mau,
O fesur, fy ngwefusau.
4I gilwg a drwg drwy wegi, — yn ol,
Na wnelwyf dhireidi;
Na’m calon at dhrygioni,
Athro fy oes, na thro fi.
Na’d i’m fwytta, tra lle trig, — im’ waeth‐waeth,
Eu danteithion blysig:
5Cerydhed yn garedig,
Cured kyfiawn, dhawn heb dhig.
Na’d yw holew glew, sy ’n gloywi — fy mhoen,
Dorri fy mhen, Geli:
Yn erbyn gwŷn drygioni,
A gwaedh fawr, gwedhïaf fi.
6Tafler a bwrier borau, — o burnerth,
Eu barnwyr ir creigiau;
Melus ydyw, nid gwiw gau,
Fy ngwir, clywant fy ngeiriau.
7Fal torri ynni anwar, — ymannos,
Cymmynu coed daear,
Ein hesgyrn sydh yn wasgar
Yn min y bedh a gwedh gwar.
8Arnad, rwydh Arglwydh eurglan, — o drachwant,
Yr edrychaf weithian:
Gobeithiais, gwelais nad gwan
Y dull; na’d f’enaid allan.
9Rhag maglau, cadau cydwedh, — cu ydwyt,
Ti’m cedwi o’th orsedh;
A hoenynnau ’n gwau yw gwedh,
Aeth hyn, Iôr, waith anwiredh.
10Eu rhwydau eu hun yw rhwydo — a’u deil,
Onid elwyf heibio;
Cyd‐gwymped, na ffynned, ffo,
Annuwiolion yn wylo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.