Psalmau 44 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y XLIIII. Psalm. Devair Hirion.

1DVw klowsom yn dakluswych

An klustiau y geiriau gwych:

Dwedodh yn tadau wedi

Oedh deg dy weithredoedh di,

A wnaethost gwirfost nid gau

Nod adhysg yn eu dydhiau.

2Diwreidhiaist ath law drwydhynt

Genedloedh ar gyhoedh gynt:

A fflennaist hoff haelioni

Ti ydyw ner yn tadau ni.

Peraist ner kyfiownder fu

Ond hyfedr vdhynt tyfu.

3Dinystriaist y dyn estron

I ble dhaeth y bobloedh ion.

Ni ’fedhiannynt fodh anhael

Y ur oe nerth mewn trin wael:

Nid i braich, vniondeb rodh

Nae hockedion ae kadwodh.

Dy fraich deheulaw dy frenn

Ath lewych taerwych tirion.

Dy wyneb dy ras dinam

Difai ae kadwai rhag kam.

4O Duw tri ym o daw trin

Mawr iawn ydwyd fy’mrenin

Gyrr Siacob trwy obaith

Gymorth am i gam gan gaith.

5Y gelyn dig galwn di

A ysgiliwa Duw os gweli:

Trwy d’enw naf, troediwn wr

Sy im erbyn gelyn gwaelwr.

6Ym dhiriaid f’cnaid ni fydh

Yn y mwa om awydh:

A dhichin tynghledh owchus,

O bai raid fynghadw heb rus?

7Achvbaist di nyni’n wyr

Iawn obaith rhag gwrthne bwyr.

A gwradwydhaist gryd waidhi

Y sy ’n wyr in kashau ni.

8I dhuw nef fyth rhodhwn fawl

Ys da ydyw’n wastadawl.

Kyffesswn koffa i oesoedh

I enw ef fyth o nef oedh.

9Wyd weithion hoew vnion hyf

Dhu erthwch bell o dhiwrthyf:

A dodi ni dad y nerth

Ymbrae adfyd amhrydferth:

Gida ’n lluoedh lle ’r oedh rann

Devellir nad ai allan.

10Gwnn oll o dduw y gwnai ynn

Gilio o flaen y gelyn.

Y gwas drwg y sydh gas draw

Yn vnrhuthr sydh in anrheithiaw.

11Roi ni in bwyta, rhyw nad

Ofal dyfal fal dafad.

Gwasgeri ni gwaisg rann oedh

Yn odlawd mysg kenhedloedh.

12Gwerthi dy bobl a gwrthiau

Yn lle tost heb ennill tau:

Heb godi igwerth, drudnerth dro

Yn brittach a bar etto.

13Gwnai ni ’n dhirmig dîg yw ’r dôn

A dig in kymydogion:

Dig drwy ffen a brick brennu

A garw don a phob gair du,

Gann dhynion sydh gelfydh gylch

In ymgais ni on amgylch.

14Dihareb wyf nwyf ion, oedly

Kain vdlais y kenhedloedh.

Kyfatgen arw awen rym

Adwyth gan bobloedh ydym.

15A bevnydh ym bu anair

Fyngwradwydh im gwydh a gair.

Kywilydh f’wyneb keli

Ackw oedh waeth im kudhio i.

16Gan lais a malais milain

Ysklandriwr ar kablwr kain,

Ar gelyn y del-dhyn dig;

Ar dialwr dielwig.

17Doeth o drais hynn o daith draw

Ing hefyd heb dy anghofiaw.

Didwyll weithian da ydiw

Yn dy ammod gyfnod gwiw.

18Ni throdh oe hol dedhfol don

Ni on koeliwch ’n kalon:

Nag allan fal enw gwilliad

Oth lwybrau yn kamrau kad.

19Kuraist ni i lawr fal kawr kau

Or drygwaith i le ’r dreigiau:

Anhudhaist gwesgaist gysgod

Angau yni angen nod.

20O gollyngais gwall anghof,

O drais gamp enw Duw dros gof:

Na chooi draw dhwylaw ’n dhall

I dhuw deithr a devall.

21Oni chwilia ’n vchelwaith

Da hoew ner Duw hynn o waith.

Fo wyr Duw diofer don

Dir gelwch diwair galon.

22Er dy fwyn ior Duw f’ann wyl

Lledhir ni ’n faith gwaith a gwyl.

Fo ’n rhifed noethed neith wyr

Fal dafad yw lladhiad llwyr.

23Kyfod pam arglwydh kyfiawn

Y kysgi Duw ri dewr iawn?

24Pam y kudhiaist haedhaist hwyl

Dy wyneb o Duw annwyl?

Anghost trveni trin

A’n adfyd gwryd gerwin.

25Kurwyd fy eneid peidiwch

I stor llawn or dwst ar llwch:

Yn boly a lyn fowdhyn far

O dhiank wrth yd haear.

26Kyfod bu amod ym borth

Ackw ymy im ky morth:

A phrynn di ni henwi hedh,

Drwy gariad dy drugaredh.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help