1Yn Arglwydh y sydh o sôn (teyrn oesoedh)
Yn teyrnasu ’n gyfion:
Ag a wiscodh loywfodh lonn,
Hy-lawn ardherchrwydh hoyw-lonn.
Gwiscodh yr Arglwydh gu‐waiscnerth drwssiad,
Idho ’n dryssor prydferth:
Nêrym-wregysodh a nerth,
Da glôd diweir-nôd Dewr-nerth.
Mowr-grwnn fŷd hy-gŷd hoyw-goedh a sic-krai,
Ar swkr-wych golofnoedh:
Di-syfl-wal ffyrf-wal hôff oedh,
Seilfa vn-yd sylfaenoedh.
2Dy holfainck orsedh-faingk said,
Proest kyfnewidiog.
Darparwyd râdhiwyd erioed:
Er tragwydh‐deb gudeb gêd,
Ti wyt Arglwydhmowrlwydh mâd.
3Llifeiriaint chwydh-faint orchudh-fa eigiawn,
Vnodl inion.
Ar ogwydh cryf dynnfa:
Tonnau distrych hoyw-dhrych hâ,
Gwnaent frwd‐ferw twrw taera.
4Cedyrn yw tonnau codiad y garw-fòr,
Dwrw dryssor daer dreissiad:
Cadarnach cryfach y câd,
Iôn wych hawl mewn vchel-wlâd.
Proest kyfnewidiog.
5Dy dystiau synhwyrau syrn,
Sikr iawn ynt Duw rhwydh‐ynt deyrn:
San[c]teidhrwydh diwydrwydh dwrn,
A wêdh ith lys fowr-lys farn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.