1O Duw deg na ostega,
Dydi o tewi nid da:
Na fydh na llonydh na llonn
Duwlown-wyrth wrth d’elynion.
2Wele d’elynion eilwaith
Sy ’n terfysgu maedhu maith:
Ath gaseion geirwon gau
Poenus yn kodi i pennau.
3Cyfrinach bell dhichell dhu
Ith dhynion wedi thanu:
Ymagynghori am sommi son
Dhynystr ith dhirgel‐dhynion.
4Dowch lledhwch kas‐dhwedasant
I plaid fal na bo i plant
Na chofier na henwer hael
Mwyenw oes-rym yn Israel.
5Vn fryd arw ynfyd lle ’r ânt
Eisoes ymgyngorasant:
Ag ym-wnaethant gwarant gwŷn
O iaith oerbwyll ith erbyn.
6Ismael heb Edom bebyll
Moabiaid Hagariaid hyll:
7Ammonniaid, Gebaliaid bw
Amalekiaid aml ackw.
Philystiaid anhoff lestair,
A gwyr Tyrus ofnus air:
8Asur ag hwynt sura kawdh
Heb pleser a ymg wplysawdh.
Braich a fuant ag antur
I blant Lot nes darfod dûr.
9Gwna i rhann fal i Fadian fach
A Sisara sias oerach.
Megis Iabin flin flaeniad
Wrth aton Kison mewn kâd:
10Hwynt a lâs feilch hynt lwys fydh
Yn Endor o fewn vn-dydh.
Buant yno boen tanu
Yn dail ar y dhaear dhu:
11Dod frig i bonedhigion
Fal Oreb a Zeb wrth son.
Ae oll dwysogion llonwych
Fal Zeba a Salmna sych
12’Rhai a dhwedant soniant swn
Accw a mowrair cymerwn
A mynnwn a mwy ynni
Dwyn oll deiau Duw i ni
13Gosod nwy ’n ol fal olwyn
O Duw fy Nuw mowrdhuw mwyn.
Fal sofl isel i helynt
Aflawen gwrs o flaen gwynt
14Fal y llysg ofal llesgoed
Tân ar carth tyner y coed
Ag fal godhaith mewn eithin
Poethwel mynydh crynwydh crin
15Erlio ath demestl oerloes
Felly hwynt i fallu ihoes
Dechrau ’n hawdh, dychryna hynt
Ath gu eiriau ath gorwynt
16Llanw di a gwarth lluniad gau
Hoen abwyd i hwynebau.
17Cywilydhier rhodher hawl
Gwedhai drallod dragwydhawl
Gwradwydher coeher calyn
Difether hwynt fyth er hynn
18Cân wybod, cyn darfod dig
Yn ion mas tydi yn vnig
(Yr hwnn yw Duw ar henw da
Y sy hyfdr Iehofa)
Sydh oruchaf gwchaf gwar
Vcha dewis vwch daear.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.