Psalmau 82 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y LXXXII Psalm. Englyn or hen ganiad.

1Dvw saif dwys oedh

Darf i dorfoedh:

Ymhlith Duwiau gau ar goedh

Or beibl i farnu ’r bobloedh.

2Pa ham pa hyd

Trais-farn trowafyd?

Ag o du gyrru i gyd

Anuwiolion a welyd.

3Dled i dlodion

Y[n]ad vnion:

I ’mdhifad diwad don

Ar rhai disas rheudusion.

4Clyw dlawd clod lan

Ag wrdh eg wan:

Rag y rhai drwg gwg gogan

Oe mysg achubwch wyr man.

5Dall dheullant

Nodhed ni wydhanf,

Y towyll blin twll i blant

Rod isel a redasant:

Daear diau

Lle bu oll heb au,

Symudwyd kas amodau

O fewn ae holl sylfaenan.

6Dwedais keisiych

Duwiau da ych:

Wedi meibion oll ydych

Y goruchaf gwiwnaf gwych.

7Rhaid marw pe rhôn

Dyna fal dynion:

A syrthiwch fel oerfel ion

Sy wagaidh towysogion.

8Kyfod kyfar,

Dhuw barn dhaear:

Dy tifedhiaeth gwiwfaeth gwâr

Fydh oll genedloedh heb fâr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help