Psalmau 124 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y CXIIII Psalm. Clogyrnach.

1Ond gwaith f’arglwydh gwiwlwydh gêli

Diau o nerth fod gyda ni:

Dyweded wiw-dôn

Israel sy hael-son

Yr owrhon a wiri.

2Ond gwaith f’arglwydh gwiwlwydh geli

Diau o nerth fod gida ni

Pann gododh modhion

Dynystr y dynion

Oerboen ion ’n erbyn ni.

3Etto yn fyw llyncasent fi

Arwa pennod oera poeni:

O dhig a dhygyn

Oerbell in erbyn

Lled‐ennyn llid ynni.

4Yna bydhent yn yn bodhi

Y dyfroedh hoen oedh yna y ni

Yr aton honnaid

A lynniai lonaid

Dros enaid, draws weini.

5Yna ’r aethai er a weithi

Tros yn henaid traws iawn honni:

Y dyfroedh du-frig

Ydoedh chwydhedig

Arbennig hir boeni.

6Bendiger yn ner vnion ni

O radh iawn wyrth ni rodhai ni:

Yn sclyfaeth waeth wêdh

I dynnu a dannedh

A garwedh a gerwi.

7Dyrys iawn waith torrason ni

Rwydau ’r adarwr wedi:

Dir oedh pann dorrym

Imaglau mwyglym

Rhydh ydym rhwydh oedi.

8O Duw vnion dy wiw enwi

Am wyrth net yw yn cymorth ni:

E wnaeth ion yw ef

O lais i wir lef

Daear nef draw i ni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help