Psalmau 144 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y Psalm. CXLIV. Cywydd Deuair Hirion.

1Bendigaid enaid wiwnerth,

Da fwyn Iôr, fo Duw fy nerth;

Hwn a dhysg, gloyw adhysg gladh,

Amlwg, fy nwylo i ymladh;

A’m bysedh, (O freisgedh fry!)

Ar foliant, i ryfely.

2Fy nhrugaredh, dawnwedh da,

Hoff unfodh, f’ymdhiffynfa;

F’ymdhiffynwr a’m tŵr teg,

A gwaredwr goreudeg:

Ac yndho ef, loywnef lais,

Dêg o bwyth, da gobeithiais;

Gostyngaist, gyrraist, mi a gaf,

Tynnaist, fy mhobloedh tanaf.

3Beth yw dyn, ni wydhyn’ wŷd,

A bodh, pan gydnabydhyd?

Neu fab y dyn, tremyn tro,

A hwn gwnai gyfri’ o hono?

4Dyn sydh debyg, ysig wedh,

Arwa’ gogan, ir gwagedh;

Fal cysgod bydh, dydh y daw,

Nod hybell, yn myn’d heibiaw.

5Gostwng, Arglwydh rhwydh, er hyn,

Nwyf o dasg, nef, a disgyn:

Cyffwrdh fynydhoedh g’oedh gant,

A mwy agwrdh y mygant.

6Ennyn fellt, union a fu,

Agos gur, yw gwasgaru:

Gyr dy saethau, daclau da,

Wedi fyth, yw difetha.

7Anfon dy law ’n aelaw nod,

I achub odhiuchod;

Tyn fi ar g’oedh o dhyfroedh, Ion,

Astrus, o law plant estron.

8Gwagedh yw gwên, a’u genau

Llefarant, gwydhant mai gau;

Eu deheulaw, Duw haelaf,

Sydh ffalsder, yn ofer, Naf.

9It’ canaf, gweithiaf i’m gŵydh,

Nod iawn yw, ganiad newydh:

Ar dhegtant nabl, mae ’n ablwaith,

Canaf i ti, Rhi fy rhaith.

10Fe rydh iechyd, wỳnfyd oedh,

Farn hynod, i frenhinoedh;

Gwared, Naf, dy was Dafydh,

Rhag cledhyfau, rhodau rhydh.

11Achub, gwared, dromged rus,

Rhag meibion estron astrus;

Gwagedh yw gwên, a’u genau

Llefarant, gwydhant mai gau;

Eu deheulaw, Duw haelaf,

Sydh ffalsder, yn ofer, Naf.

12Gwinwydh fydhant plant ein plaid,

Yn ifaingc yw henafiaid;

A ’n merched, sail adailad,

Yn gonglfaen nadh radh o rad:

13A’u conglau ’n llawn, dawn da aeth,

Yn hylwydh, ac yn helaeth;

Defaid gwelwn filiwn fyrdh,

Glwyswaith, ir meusydh glaswyrdh:

14A ’n hychen cryfion uchod,

Fawr borth, i lafurio ’n bod;

Na gwaedh ar heol, dyn gwan,

Mewn i dwll, na myn’d allan.

15Gwỳnfyd yw hedhyw eu hynt,

O lwydhiant, felly idhynt:

Gwỳnfyd ar ei ganfed oedh,

Llawen bobl Duw lluoedh.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help