1Gwir, hynod, o dhefod dha,
Yw (os adwaen) Duw ’n Siwda;
A mawr ei enw a mael
Yn newisran yr Israel.
2I babell dra‐eur‐well drem
Y sy, eilwaith, yn Salem;
A’i drigfa, Dduw, Wiwdhuw, Iôn,
A sai’ (annedh) yn Seion.
3Yna drylliodh, fawrfodh fu,
Y saethau rhag eu seuthu;
Y bwa cryf, rygryf ran,
Clau o ’r tir, a ’r clawr‐tarian;
Y cledhyf hoywgryf, hygrwydr,
Friwdaith, a ’r rhudhwaed frwydr!
4Disgleiriach a chadarnach chwyrn
Wyd, na ’r cadau wyr cedyrn.
5Cedyrn‐galon, ladron lu,
Yspeiliwyd nes eu pylu;
Hunasant eu hûn isod —
Hunant — ni ryglydhant glod:
Milwyr, cadwyr, rai cydnerth,
Dim ni chawsant ’ nwyfiant nerth.
6O Duw Siacob aur‐gob‐waith,
Gan dy gerydh, derydh daith,
Y rhoed y cerbyd y rhawg,
Y march, i gysgu, a ’r marchawg.
7Tydi, tydi, fy Rhi rhwydh,
D’ofni a dhyli, Dduw‐lwydh:
Pwy a saif, araif iraen,
Pan dhygid y’th lid o’th flaen?
8O ’r nefoedh y cyhoedhyd
Dy farn, oreufarn, ar fyd;
Yr holl dhaear gryfwar, grai,
Os digit, a ostegai.
9Pan gododh Duw, Fawrdhuw, fry,
O fawrnerth, draw i farnu,
Ag i achub (gu‐wych‐ir)
’Rhai llednais, didrais, ar dir.
10Cyndharedh dyn boldyn, balch,
A’th folianna, fael, Iawnwalch:
A’i gyndharedh o wedh‐dhull
Gostegi draw, dhifraw dhull,
11Adhunwch i Dduw uniawn —
Telwch dhieidhilwch dhawn;
Dygwch wiwdeg anrhegoedh,
’Rhai yw amgylch‐ogylch oedh;
I ’r ofnadwy glan waneg
Rhowch anrhegiad, taliad teg.
12E dyn Duw ysbryd bywiaith
T’wysogion, gwyr mawrion, maith;
I frenhinoedh bydoedh bydh
Ofnadwy wir Ofnedydh!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.