1Odhefgar wyf yn aros
Y nydh fy arglwydh a nos:
Nesodh gwrandawodh y deg
Fy llefain o fwll ofeg.
2A dug fi i deg o fann
Bell well‐well o bwll allan:
O glai a thom golaith hawdh
Ar y graig ior gorugawdh.
Rheolawdh a dysgawdh dad
Vrdhedig fyngherdhediad:
3Im genau rhydh newydh nod
I dhuw kân dhiwag, hynod.
Gwyl llawer o nifer naf
Yn gefnog ag ae hofnaf;
Ymdhiriedant rhedant rhwydh
Ior eurglod yn yr arglwydh.
4Gwynfyd siwr ir gwr a gaid
Modh a wyr idho ’mdhiriaid.
Ni rodhai bris dibris don
Oera bwlch ar wyr beilchion.
Na’r sawl a dry fry yn frau
Gwael adhysg at gelwydhan.
5Aml Duw farglwydh gloewrwydh glod
Honnaist firaglwaith hynod:
Nid oes a rif yui nifer
All pwnk dy fedhyliau per.
Teg yttoedh tu ag atton
Traethaf a dwedaf Duw ion.
Amlach ydynt rwydhynt rif
Ackw afrwydh yw i kyfrif.
6Offrwm ac aberth perthi
Mwyn stad ni dhamvnaist ti:
Am klustiau mae ’n glau mwyn glod
Yn bêr gwnaethost yn barod.
Y llosg offewm trwm Duw tri
Yn fy einioes ny fynni:
Nag offrwm degwm oedh dau
Wych odiaeth dros bechodau.
7O wedais mi a glowais ym glod
Difai wele fi ’n dyfod
Ysgrifennwyd nodwyd naf
Downus ith lyfr am danaf.
8Mynnais wneuthur freisgbur frys
Fenaid oll fy nuw d’wllys:
Dy gyfraith sydh, bydh, a bu,
Im kalon heb dhim kelu.
9Traethaf ir dyrfa fawr deg
I gyfiawnder gof wendeg.
Ni chefais nêr, mowr-ner man
Angof is fyng wefusau.
10Ni chelais dan ais Duw ner
Gof vndydh dy gyfiownder.
Treuthais dy wir keisir kêl,
Ath iechyd o waith vchel.
Ni chudhiais Dwedais mai da
Ir dorf ag ir fawr dyrfa,
Dy drugaredh ryfedh ri
Ath wir ar gair ni thorri
11Duw na thynn in erbyn n[ê]r,
Drugaredh downedh dyner.
Dy wir ath drugarawg dôn
Am keidw rhag dim hockedion.
12Trallawd ri nifeiri fu
Im pwysaw am kwmpassu:
Fymhechod anwybod naf
Oernych a graffodh arnaf.
Ni allaf yr haf yn rhydh
Vnwaith edrych i fynydh.
Amlach na ’r gwallt rydhallt ri
Ar ymhenn er ymhoeni.
Am hynn fynghalon ym hawdh
Oe byw ollawl a ballawdh.
13Gwared Arglwydh purlwydh per
Faith bu les fi oth blesser.
Brysta im ymborth kymorth kain
O arglwydh ydwyd eurglain.
14Kywilydh ackw a welwn
I gyd a gwarth gwedi o gwnn.
Ar sawl a gais trais nid rhaid
Llwydh fynnu lladh fy enaid.
Yskilier ef is kelu
Chwerwedh don a cherydh du.
A fynnai gael ofnai ged
Yn awydh ym aniwed.
15Bid dinystriad rwygiad rym.
Kyflog kywilydh kyflym.
Ysawl a dhowad yn siwr
Wele wrthyf mae ’n waelwr.
16Sawl ath gais o fantais fydh
Llon hoewnerth llawen heinydh
Sawl yn war a gar i gyd
O Duw vchel dy iechyd.
A dhowaid ar amnaid rwydh
Wirglod bo mawl ir arglwydh.
17Os tylawd oferwawd fi,
Ag anghenawg ynghyni.
Modhawl nêr y medhwl naf
Amod iownwych am danaf.
Wyd fynghymorth ymborth wr
Gwir yowyd am gwaredwr.
Fy naf lle ’r ydwyf yn ing
Vn Duw ior na wna daring.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.