Psalmau 51 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y LI Psalm. Vnodl vnion.

1Trugarog rhowiog bydh ior hael pmi

Emyn plant yr Israel:

Dod vnwaith nid wyd anael

Dy drugaredh sowredh fael.

Yn ol nifer ner gwnn euraw drwy gur,

Dy drugaredh hylaw:

Wyt ior hybarch iro heibiaw

Ebwch trwm o bechod draw.

2Raid golchi geli golau ion irwych,

F’en wiredh am drygau:

Glan-ha fyth y galon fau

A chadw hi rhag pechodau.

3Drygau a beian lle bydh o ffwysant

A gyffesaf bevnydh:

Im golwg mwy gywilydh

Baich dw[y]s lawn o bechod sydh.

4Ith erbyn Duw gwynn digonais eutbor

Ich erbyn y pechais:

Itti’n vnig y trig trais

Waethwaeth or orwg a weithiais,

Kyfion dy fodhton Duw fydhych orig

O’th eiriau a dhwedych:

Yn por vniawn pur iownwych

Yn dy farn vn Duw a fych.

5Fo ’m krewyd hael wyd mewn tylodi mawr

A mwy o dhireidi:

Mewn trais a cham fy mam i

Tremelius.

Magodh, a mwy o wegi.

6Gwirionedh coelwedh kalon Duw gwiwner

Da genyd bob kyfion:

Doethder a ffel dhirgelion

Dysgaist wyr diesgus don.

7Glan fydhaf Duw naf dan wydh goel iachus

Om gwlychi ag Isobwydh

Golch fi om amgylch a fydh

Gwnnach na ’r eiry or gwe vnydh.

8Del llawenydh rydh rwydhtant gloew awydh

Yw glowed heb sorriant:

Feigyrn tynnion gwaelion gant

Yn wych a lawenychant.

9Digllondeb d’wyneb da iownedh kudhia

Rag kyhoedhi ’ngham wedh:

Dilea Duw didlawd wedh

Ion evraid fy enwiredh.

10Duw fowredh kroyw‐wedh krea am goelwaith

Ym galon or lana:

Yspryd kyfion digon da

Mwyn adhwyn ym newydha.

11Oth olwg drwy wg drogan oferedh

Na fwrw fi yn dwrstan:

Na thynn d’yspryd gloewbryd glan

Ollawl o honof allan.

12Dy lawenydh rhydh oe rhodhi dyro

Oth iechawdwriaeth geli:

Dy yspryd nis daw a[s]pri

O Duw twyn er y inwyn y mi.

13Yno dysgat nal o iawn wys ebrwydh

Dywybrau ir drwg yipys

Ag attat try fry ar frys

Bechaduriaid baich dyrys

14Fy iachawdur pur parawd ior rhag gwaed

Radw fi ar dhydh‐brawd:

Llawen ganaf am tafawd

Dy gyfiownder ner yn wawd.

15Egor arglwydh rhwydh rhodhwych yn foesol

Fyng wefusau yn fynych:

Am genau a peirian gwych

A fenyg oy fawl fwynwych.

16Nid bytryd gennyd nag vnlawn borthiant

O Aberthoedh ffrwythlawn:

Nag offrwm dhegwm dhiga[w]n

O gig llolgedig llesg iawn.

17Y pryd twnn gwelwn geli orevbarch

Yw ’r aberth a geri

Kalon donn lle koeliwn di

Ym agwrdh ni dhirmygi.

18Par i Sêton lonn lawenwych allu

Pur wllys a fynnych:

Adeila gaer wenglaer wych

Garusalem gwrs haelwych.

19Gennyf kymeri y gwiwner hybarch

Aberth o gyfiownder:

O rym tân offrwm tyner

O gig poeth ar dy gawg per.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help