Psalmau 107 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y CVII Psalm. Proest cyfnewidiog.

1Clodforwch molwch da ’r môdh

Duw o rwysg da yw o radh:

Cans pêry i war drugaredh

Awdur gwiw yn dragywydh.

2Didwyll yno dywedwn

Degwch i waredigion

Rhai a waredodh i rhann

Oer gilwg o law ’r gêlyn.

3Ysgliff y tir a gasglodh

Or dwyrain euraid wiwradh:

Ag eglur o du ’r gogledh

A ’r dehau ior ae dihûdh.

4Bu anial crwydr y fal fas

Mewn affaith diffaith ar dês:

Heb gael lle gwar i aros

O dhiar y ffordh, orhoff-îs.

5A’n yno yn newynog

Och wedi yn sychedig:

Ae henaid mewn anhunwag

A lias yn i lewyg’

6Llefasant enwant yna

Yr ior arglwydh rhwydh a’n rhi

Yw trymder kyfyngder fu

Y gwaredodh gwir wedy.

7Fo ’i twysodh brysiodh mae brys

I’r ffordh vnion llonn yw ’r lles

O dhyno mynd i dhinas

Gyfannedh o gof vn‐nos.

8I ner cyffesant yn vn

Am drugaredh dawnwedh dyn

A’i ryfedhod gwiwnod gân

Nod hynod i blant dynion.

9Diwallodh ni dhaliodh wg

Wych oed enaid sychedig:

A dawn y llanwodh yn deg

Yna enaid newynog.

10Rhai a gwsg mewn rhuw gysgod

Angau draw o ing a drig:

Yn rhwym mewn haearn ar hyd

O gystudh alar gwastad.

11An-ufudh-hau gau ond gwâg

Ag ammau i eiriau orig:

A dirmygu drefnu drwg

Cyngor goruchaf cangog.

12Yn donn eu calon mewn cûr

Bôl o wendid a blinder:

Syrthiasant nis gwelsant gâr

Wrth Dhuw ae cynorthwywr.

13Bu gri a gweidhi drwy gûr

Yn gyfing mewn ing yn wir:

Achubodh nadodh yn ior

A thrwy ymdaith orthrymder.

14Dûg hwy or tywyll hyll hwnt

Angau gysgod nôd a wnant:

Drylliodh ni adawodh lle dônt

Mwy odhef rhwymau vdhynt

15Cyffes im nêr gloewder glan

Ae drugaredh ryfedh rîn:

Ae ryfedhod hynod hên

Ond downus i blant dynion.

16Pann fynnodh e dorrodh doe

Byrth o bres ba wyrth heb roi:

A drylliodh e fynnodh fwy

Barriau heyrn byrha-ai.

17Dynion ynfydion o fâr

Ae camwedhau ’n olau ner

O radhau anwiredhwr

Was didhym a gystudhir.

18Ae henaid traidh ffiaidh ffôn

Bob rhyw fwyd be pêr i fin:

A daethant afrad weithian

I byrth angau borth angen.

19Bu gri a gweidhi drwy gûr

Yn gyfing mewn îng yn wir:

Achubodh nagodh yn ior

A thrwy ymdaith o orthrymder.

20Gyrrodh i air grair gwiw rent

Yn rhodh iachaodh wych hwnt:

A gwaredodh cadwodh cynt

Wyr oe mwythau (ior) methiant.

21Cyffes in nêr gloewder glân

Oe drugared ryfedh rîn:

Ae ryfedhod hynod hên

Hynt downus i blant dynion.

22Aberthant nis gweithiant gûdh

Aberth moliant i sant sydh:

Traethant i waith yn faith fôdh

Ae foliant a gorfoledh.

23A êl i’r môr, goror gân

Mewn llongau yn gwau a gwŷn:

Gwnant i gorchwyl a hwyl hin

O ymyrru a dyfroedh mowrion

24Hwy welsant waith perffaith pûr

Yr arg[l]wydh, ag arwydh gwir;

Ae ryfedhod wiwnod ior

Wedi ofndaith mewn dyfnder.

25Doedodh e gododh y gwynt

A mor‐gymlawdh nid hawdh hwnt:

Cododh a neidiodh fal nant

Yn donnau nôd a enwont.

26Rhai dringant fef i nêf nenn

Oedh esgud rhai a dhisgynn:

Todhodh i henaid didhan

O flinder afael wann-don.

27Penn-droant, tripiant at rann

A modhau fal y medhwyn:

A methodh yma weithion

I doethineb daith an‐un.

28Bu grî a gweidhi drwy gur

Yn gyfing mewn îng yn wir:

Achubodh nadodh yn ior

A thrwy ymdaith orthrymder.

29E wnaeth yw stormoedh yn ol

Yno dewi yn dawel:

A ’r tonnau i gau yn gûl

O dyst gwyr distaw ae gwyl.

30Yna llenwir llawenydh

Y mor yn wastad ae medh:

Ef ae kymorth lê porthladh

Ymannos a dham vnodh.

31Cyffes in nêr gloewder glan

Oe drugaredh ryfedh rîn:

Ae ryfedhod hynod hên

Ond da iawn i blant dynion.

32I bobloedh ar goedh i gyd

Da orchafiaeth derchafed

Mawl i dhedhf mewn eistedhfod

Yn orau pob henuriad:

33Ir diffeithwch trwch hynt radh

Wedi y llif gosododh:

Y ffynnonian ffein vnwedh

O dhosbarth a wna ’n dhisbydh.

34A thir in wythlawn a dawn da

Yn dhiffiwyth hwnn a dhefiry:

O gynnen a drigioni

Agwandhull rhai drig yndho

35Rhoes anial hir resynys

Yn llynn dwfr llawen o dês:

Ffynhoniau hoff iawn henwis

A dwr croyw dhaw o dir cras.

36Gwnaeth yno i dario dônt

I r newynog rann enwent:

Dinas a dharparasant

Gyfannedhol wedhol ynt.

37A haeasant hwy feusydh

A phlann gwinllann ugeinlludh:

Diogel ffrwyth y dygodh

A thoreth ymborth wiwradh.

38Oth fendith dichwith Duw wyd

A mawl cân yn ami y caed:

Heb leihau rhwng cangau coed

O fawl oe hanifeiliaid.

39Gwedi gwnat yn llai illîn

Mewn îng yn gyfing i gûn:

Gostyng wyd mewn gwest angen

A dryg-fri mewn cyni can.

40Bwriodh dhirmyg dîg nid da

Ar i bonedh arw boeni:

Gwnaeth hwy a brwydr i grwydra

Oe ffordh ir anial y ffy.

41Y tylawd ar i wawd waedh

Wedi i gôdi in gwydh:

Da lewyrch i deuluoedh

Pur ior a gododh fal praidh.

42’Rhai vnion heb gêl gwelodh

Yn llawen orawen radh:

A now-ran pob anwiredh

A gau i safn ag y sydh.

43Pwy sy ’n gall pa sonio in gwydh.

I gadw d mynn hynn yn hawdh:

A dheuall yn gall ar goedh

Fowrglod trugaredh f’arglwydh.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help