Psalmau 80 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y Psalm. LXXX. Proest cyfnewidiog

1Gwrando ’n dhidhig y bigail

Dasg oes-rydh dwysawg Israel

Ymysg Cherubin a mawl

Dangos dy fod kyfnod koel.

2Ger bron Ephrym, kyflym koeth

Manasses Beniamyn asaeth,

Dangos dy gryfdwr down-goeth

Dyred ath iechydwriaeth.

3Towys Arglwydh rhwydh yn rhann

Attat eilwaith dull hoew-lon

A llewych dwyneb llawen

Gwych o fodh ag iach fydhwn.

4Duw rhyfeloedh llûoedh llên

Ith swydh pa ffrommi ath son:

Wrth wedhïau geiriau gwên

A dewisair dy weision

5Ibwyd ae bara oedh

Arglwydh

Bôr,

O dhagrau ’nol dhuw gwiw nêr

Wylo ’n dhiod o alar

Amryw foes mawr o fesur.

6Gosodaist rhodhaist ni a rhêg,

Ymryson cymdogion dig

Ragor chwerthin gwatwor-geg

In gelynion ŷn glennig.

7Duw lluoedh ryfeloedh rann

Tro ni eilwaith twrn hoewlon

A llewych d’wyneb llawen,

Gwych fodhus ag iach fydhwn.

8Dy winwydh vnduw vnion

Tynnaist or Aipht naws dy rann

Gyrraist genhedloedh geirwon

Plennaist di a fynnaist dy fann

9Koledhaist, puraist fal

Arglwydh.

Pôr,

Groew-dhawn pwyll i gwreidhin pêr

Honna lanwodh iownrhodh îr

Llu deau a holl daear.

10Y mynydhoedh koedh kudhiyd

Gwych asgell deg ae chysgod,

Oll wedi ei changau lledyd

Heini vwch Cedar hynod.

11I blagur yn dhyblygion

Aeth hyd y mor gloew-ior glân.

Kangau ai breichiau or brynn

Ir afonydh rif vnwn.

12Pamy gwnaethost yn dost ynn

Iw chaeau ad wyau’n dwnn.

Pob rhodiwr ofer-wr fann,

Arwr llais ai drylliason.

13O drallod yn i dryllio

Baedhod koedydh fydh gwae fi,

Ar ’nifeiliaid drygnaid dro

A pherigl yn i phori.

14Duw rhyfeloedh lluoedh llin

Trô naf deifyfaf dwys ion:

Edrych o nef gwiw-nef gwên,

O Duw iown-llwybr dy winllan

15Nodhed dod ith winwydhen,

A blennaist draw ath law lân

Breichiau ae changau wych ion,

Wyt hael sydh eidhod dy hûn.

16Gosodaist hi bwriaist a bar,

Torraist a baedhaist Duw bôr:

Pann gerydhi geli gwâr,

Methant ni fydhant nef Ior.

17Bid dy law yn aelaw nêr,

I dhyn oth dheheulaw dhìr:

Ag ar y dyn gariad ior

Yn wyrth y buost nerthwr.

18A Duw nid ymadawn.

Gwna ni yn fyw y llyw llawen:

Ag o olud y galwn,

Duwiol dy enw da awen.

19Duw lluoedh ryfeloedh rann

Tro ni eilwaith twrn hoewlonn

A llewych d’wyneb llawen

Gwych o fodh ag iach fydhwn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help