1Dod drugaredh rhyfedh im rhaid
O Dhuw orig mae ymdhiriaid
Fy enaid ynod finnau:
A dod gysgod dy deg esgyll
Ymhob kaledi honni hyll,
Trythyll ynt ae hareithiau.
2Ar Dhuw kriaf bid vchaf bor
Duw am perffeidhia fwyaf ior
A rhagor o anrhegau.
Denfyn ef o nef in kadw ni
Keidwad rhag llyngku wedi
Yw geli an Duw golau.
3Mwynedh a gwiredh i gyrrai
Im enaid y pryd y mynnai
A orwedhai ’n is radhau.
4Ymysg y llewod, rwydhnod rus
Ar kynhwynol wr kynhennus
Ar rhai astrus arwestrau.
Llyma y dynion llym i dannedh
Syth waew anial saethau vnwedh
Y kledh yw i tafod klau.
5Dyrchafer ef vwch y nefoedh
A gogoniant moliant miloedh
Vwch tiroedh vwch y tyrau.
6Rhwyd yma tanwyd am tynnodh
Im sodlau maglau am mwyglodh
Gwyrodh fy enaid gorau.
Ffossydh atgas im klodhiassont
Yn yr rheini er a hunont
Y syrthiasont, swrth eisiau.
7Parawd ynghoel-wawd yw’nghalon
Parawd yw y tafawd yt ion
Waith vnion a thannav.
8Deffro fy vrdhas da ras drwssiad
Deffro vgein-waith deffro ganiad
Bwriad yw kodi y borav.
9Wrth genhedloedh miloedh molaf
O wedh kynnil i Dhuw kanaf
Adholaf ef sydh olav.
10Da air enwi yw dy rinwedh
Ath wir vnion ath wirionedh
Eilwedh vwch y kymylau.
11Dyrchafer ef vwch y nefoedh
A gogoniant moliant miloedh
Vwch tiroedh vwch y tyrau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.