1Moliannaf, medhaf, a’m min,
Mawr enwog, Dduw fy Mrenhin;
A bendithiaf, mwyaf mawl,
Gwiwdhuw, dy enw tragwydhawl.
2Beunydh, gwiw Wawdydh gwedi,
Molaf a bendigaf di;
Clodforaf byth, clod‐fwriad,
Dy enw a dysg, Duw Iôn Dad.
3Mawr wyt, Arglwydh, swydh sy hwy,
Aml o wawd, canmoladwy;
Ni ellir (chwelir) chwiliaw
Dy fawredh diryfedh draw.
4Cenedl i genedl a gan
Dy waith, e’i molwyd weithian.
5Adrodhant, anant ennyd,
Dy wirnerth, prydferth yw ’r pryd;
Myfyriant, mwy‐fwy eiriau,
Mawrglod hwnt, y miragl tau,—
Dy ogoniant ugeinwaith,—
Dy wirionedh; mawredh maith!
6D’wedant, daliant a dolef,
Dy nerth: (erchyll wyd o nef!)
Minnau draethaf, gwychaf gwedh,
Ydwyf wirion, dy fawredh.
7Mawredh, Iôn, dy dhaioni
O nef, a draethant i ni;
A chanant yn wych waneg
Dy gyfiawnder tyner, teg.
8Madheuaist, am oedh dhiwad,
Llawn dy ras, — llyna dy rad:
Mawr dy drugaredh, medhir,
Hwyr dy lid, gwypid mai gwir.
9Da wyd, Arglwydh, wiwswydh Iôn,
Dawnus, i holl blant dynion;
Mwy dy drugaredh gwedhawl
Na’th holl weithredoedh, na’th hawl.
10Dy weithred, sonied pob sant,
O fawredh, a’th glodforant;
Dynion a gais daioni,
O flaen tal, a’th folant di.
11A gogoniant, foliant fod,
Dy deyrnas, adhas eidhod;
A siaradant, llwydhiant llu,
Duw well‐well, am dy allu:
12Er dangos i wyr dawngall,
Y Nêr, dy bower diball;
Dy ogonedh teg, uniawn,
Urdhas dy deyrnas a dawn.
13Dy ras sydh yn teyrnasu
Yn dragwydhawl, dy fawl fu.
14Y gwan a thruan wrth raid,
Dy gynnal ŷnt, a gweiniaid.
15Edrychant, bwriant yn bêr,
Bob llygad arnad, Eurner;
A rhodhi fwyd, rhwydh o fawl,
I’w sirio yn amserawl.
16Di a agori, dy gariad,
Da dhal rhodh, dy dhwylaw rhad;
Rhwydh yn ol rhodhi i ni
O’th luniaeth a’th haelioni.
17Cyfion wyt, Iôr, cyfnod haul
Dy lwybrau, eiriau araul;
Trugarog, rhywiog, Iôr, oedh
(Doetha’ rad) dy weithredoedh.
18Agos beunydh, rydh rodhiad,
I bawb a’th alwo, heb wad.
19Ag yn berffaith, gwn, burffydh,
A’th ofno a fynno fydh;
Eu nad sydh gymmeradwy,
Accw Duw hael a ’n ceidw hwy.
20E geidw yn war a’i caro;
E ladh y drwg, dilwydh dro.
21Mawl ir Arglwydh, mawrlwydh mau,
Mae’i ogoniant i’m genau;
Pob cnawd a thafawd a thant,
Mael yw enw, moliannant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.