Psalmau 116 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y CXVI Psalm Deuair hirion.

1Da yw gwynn dhuw dygn wedhiais

Clywodh ef fy llef am llais:

2Am blygu im caru caf

A glwys deitl i glust atlaf.

Yn y-nydh vnion wedhi

O goel fyth y galwa fi:

3Angau ae raffau lle ’r ant

Isod am cylchynasant.

Ing y bêdh yw ’ngwybydhiaeth

A’m daliodh gwasgodh fi ’n gaeth:

Blinder a mallter i’m ais

A gofid mawr a gefais.

4Yma eilwaith mi a alwaf

Vnion nôr ar enw yn naf:

Atolwg nêr hyder rhaid

Dnw ffanwyl gwared f’enaid.

5Cofiwch fod f’arglwydh cyfiawn.

Yn drugarog enwog iawn:

A thyst ior a thosturiol

Yw ’n Duw ni a’n dawn yw ol

6Ceidw yn dyner yn nêr ni

Y rhai syml ni char siommi:

Bûm ilel bu oerfel byd

Mwy vcho rhoes iy iechyd.

7Dychwel f’enaid gloewnaid glwys.

I’th arffed byth i orphwys:

Cans yr Arglwydh wiwlwydh yt

O wyrth a fu dha wrthyt.

8Duw mawr tynnodh enaid mau

Dhierth îng o dhiwrth angau:

Yn-rhaed ni lithran rhodiyn

Y owr o’m llygain a dynn.

9Rhodiaf dir rhai hyw gwirion

Yngwydh farglwydh wiwl-wydh iôn:

10Llefarais, credais; cûr wyd

Er ’sdydhiau im mawr gystudhiwyd.

11Dwedais ar ffrwst trwst bi[...]d rhydh

Gwelais fod pawb ar gelwydh:

12Beth a dalaf i’n nâf ni

Am i dhawn mwy dhaioni:

13Cym raf phiôl nâf a wnaeth

Dior wag iechyd wriaeth.

Ar enw yn nêr wirion naf

Duw gwiw olud y galwaf:

14Talaf â mynnaf ym ion

Oedh dhidwyll f’adheweidion.

I’r llan yr owran heb rûs

O flaen i bobl foliannus:

15Gwerthfawr y-nawr yw y nôd

Y ngwydh yr arglwydh eurglod.

Marwolaeth alaeth dhôlef

Y sy hwnt oll yw saint ef,

16Wele o arglwydh herwydh hynn

Dwys ydwyf dy wâs a-dyn:

Dy was wyf yn dewis swyn

Fowrair, mab dy lawforwyn:

Fy rhwymau a’m asau mêr

Datodaist di wyt hyder.

17Aberthaf nêr syber sant

O borth mawl aberth moliant:

A galwaf vn Duw geli

I enw yn ner vnion ni.

18Talaf im ner breisgder brau

Dhawn ydoedh f’adhunedau

Ir llann yr owran heb rûs

O flaen holl bobl foliannus:

19Ynghyntedh ner grysder grâs

Caerusalem cair solas:

Molwch a soniwch ich swydh

Or-eurglod Dhuw yr arglwydh.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help