1Ffladredh anwiredh wrth enwirion dadl,
Doedai o fodh i galon:
Nid oes on vn Duw nae son
Yw lyga[i]d nae olygon.
2Iw lygaid tanbaid nod tau ffol edrych,
Mae i ffladredh yntau:
Enwiredh oeredh eiriau
Ae gas a haedh i gashau.
3Enwiredh dalledh o dwyllair geiriau
I enau aniownair:
Ni dhevall yn gall vn gair
Na daeoni nod anair.
4Didhawn hyffordh fiordh yw ffau ef a dry,
Dhyfais drwg yw dylau:
Ag ni wrthod gyinod gau
Devryw egan y drygau.
5Dy drugaredh medh Duw mav or geirwir
A gyraedh nef olau;
Ath ffydhlonder dyner dau
A mawl hyd y kymylau.
6Fal mynydh mawr rhydh rhodher yn odiaeth,
Yoyw dy gyfiownder.
Dy len gadarn farn doi-ferr
Deufwy vnduw fal dyfnder.
Dydi a gedwi o gydwedh dhownus,
Dhynion a bwyst filedh:
7Mor orchestawl mawl ae medh
Draw e gair dy drugaredh.
Oth ymdhiriaid naid dan wyll daeoni,
Plant dynion sy’n sefyll:
Dan gysgod hynod nid hyll
Dewisgar Duw dy esgyll
8A braster dyner dy duy dhull vnion,
Y llenwi ’nhwy bevnydh:
O dhwr pleser rhwydhder rhydh
Iraidh wyd rhoi dhiodydh.
9Kans maith diwid taith da wyt di biau,
Ffynnon bowyd geli:
Yn dy olau in deli
Ni a welwn oll olau ynt.
10Dod ras ir dinas dynion oth hyder
Ath edwyn di’r owrhon:
Ath gyfiownder llownder llonn
Y leni ir medh wl vnion.
11Traed balchder fy ner ion evraid wirbarch,
Na dhel erbyn f’enaid:
Nam kynhyrfer plyger plaid
Yn oer a llaw enwiriaid.
12Hynod swrth isod syrthiassant oer dro,
Ir drwg a weithiassant:
Dinystriwyd plygwyd iplant
Ollawl kodi ni allant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.