1Duw na thâw lle dâw dy air
Duw fy moliant fwy mow-lair
2Annuwiol enau gau gant
Ryfedh ymgyngorasant
Y tafod-gwyllt tyfiad gwŷn
Oerbwyll lafar im erbyn.
3Cylchasant fi clowch wiw-fias
Garwa cerdh ae geiriau câs
Ymladhant a ffant a ffôs
Mwy bechod a mi heb achos
4Am gariad yn anad neb
Wrth hynn ân im gwrthwyneb
A minnau ’n wael mael im ais
Iwiw-dhuw a wedhïais.
5Gosodant dhrwg cilwg hynn
Mowrbell dros dâ im erbyn
Ag a dâl gas gwas nis gwad
Mwya ’nghur am ynghariad.
6Dôd arno ffieidhio ffol
Vn o awydh anuwiol
Bid Satan darogan draw
Halog wrth i dheheulaw
7Pann farner rhwydhder yrhawg
Yn iwin aed yn enawg
I wedhi bu gwaedh oe bod
O bai ochain, yn bechod
8Bid byr-hau oriau ei oes
Bid berigl a bid berroes,
Cymred arall a gwall gwaeth
Y sy gwbl i esgobaeth
9Bid i blant bywyd i blaid
Oedh ofer yn ymdhifaid
Bid i wraig ir byd a rann
Oedh waeth‐waeth yn wedhw weithian
10A chrwydrant i blant yn bla
A garw deitl i gardotta
Eu bara a gais bâr y gwedh
O fewn lle anghyfannedh
11Rhwyded yr occrwr rhydyn
A fedh oll fawa o dhyn
Bid dieithriaid lle caid cûr
Ol ef i anrheithio i lafur
12Na roed neb trwy vndeb tro
Wawr dhydh drugaredh idho
Mwy ni bydh a rydh i raid
Ddiafiaith yw ymdhifaid
13Dmystrier gyrrer yn gaeth
O lwgr oll i hiliogaeth
Di-lêer dalier dolef
Ir ail oes ar i ol ef
14Eurglod coffaer (arglwydh)
An wiredhau i dadau ’n dwydh
Coffa oedh yna ’n dhinam
Pechod er i fod yw fam.
15Y rheini modh y rhennid
Ger bron ner bob amser bid
Bid coffa oedh yna odhi-arr
Duedh ag gwyneb daear.
16Ni chofiodh wâr drugaredh
Erlid truan wann i wedh
A lâdh tylawd darfawd dig
Oedh wedi ’n gystudhiedig
17Hoffodh dhichwith felldithio
Honn yn boeth a dhoeth i dhô
Ni fynnai fîlth fendith fod
Hoen wyrth mae honn yw wrthod
18Gwisgodh felldith dhichwith dhyn
Dall wedi fall dilledyn
Fal Dwfr idho chwidro chwyrn
Ail wisgo oel yw esgyrn
19A bydhed fal dilledyn
A wisgo ef waisg o wyn
Fal gwregys yw grys deg rôl
O[s] dodid yn wastadol
20A hyna fy nêr dyner dôn
Gwyl vnwaith im gelynion.
Rhai dhowaid wrth fenaid fydh
Aniwed yn i awydh
21Moes arglwydh mowr-lwydh i mi
Yn ol d’enw êl daeoni
Gwared fyfi rhi er hêdh
Da drwy gûr dy drugaredh
22Cans truan a gwann dig wyf
Oediog a thylawd ydwyf
Mae ’nghalon o dhwyfron dhig
A llid yn archolledig
23Wyf fal cysgod trwm-nod tro
Gwag eidhil yn gogwydho
Fo ’m esgydwyd gwelwyd gwyn
Ail crwydr ceiliog rhedyn.
24Gwann yw fynghliniau ywch gwydh
O newyn egwan awydh
O’m brasoer pûr y curiais
O’m cnwd maith am enawd o’m ais
25Cywilydh herwydh i hynt
Hefyd gwnn oedhwn idhynt
Siglent pann i gwelent gau
Oe piniwn drwg i pennau
26Fy arglwydh wyd arwydh da
Wyrth Dhuw fi cynnorthwya
Achub fi ’n ol wiriol wedh
Duw Dri gwir dy drugaredh
27Oe bôdh fal y gwybydhyn
Daith hir mae dy waith yw hynu
Ag mae tydi gweithi gôst
Wiw gûn weithian ae gwnaethost
28Rhônt felldith dy fendith di
I kywilydh nis cêli
Mwy gywilydh im galon
Dy was fydh llawenrydh llonn
29Niwed im câs aniwarth
Yr offer gwisger a gwarth
Gwisg kywilydh bydh o bell
Yw mintai megis mantell
30Molaf f’arglwydh mowr-lwydh mau
Mwy ogoniant am genau.
Moliannaf ef o nef nêr
A llywydh ymylg llawer
31Saif wrth y tlawd barawd Bôr
Ae dheheulaw dha hael-ior
Rhag barn yn gadarn a gaid
O been i achub enaid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.