Psalmau 99 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y XCIX Psalm. Proest cyfnewidiog.

1Dvw gû sy n ’teyrnasu ner

Tyrfa esgud terfysg-wr.

Eistedh thwng Cherub medhir

Wir Dhuw er siglo ’r dhaear.

2Mawr yw ’r Arglwydh mowrlwydh mâg

Yn Seion yn dirion deg:

Vwch crêd mae’n dhyrchafedig

Ir dynion mae ’n ior doniog.

3Molant dy enw a miliwn

Mawr ofnadwy fwyfwy f’ion:

Canys santaidh i wraidhyn,

A Duw vwchlaw Duwiau achlan.

4Nerth brenin car gyffinydh

Farn vniondeb rwydhdeb radh:

Gwnaethost farn iawn gyfiawnedh

Ae dûy Iaco ae dygodh.

5Dyrchafiad ner cymered:

Yn dawn yw ein Duw ni wad:

Crymmwch yw seintwar barod.

Santaidh yw Duw byw ’r byd

6Moses hen mwys was hynod

A hoff Aron offeiriad:

A Samwel yno a welid

Or rhai ae galwai drwy ged.

Ar ei enw ef o rinwedh

Galwasant ner hyder hydh:

Ion a erys o nowradh

Diau ef ae gwrandawodh.

7Mewn niwl llefarodh mwyn ior

Colofn bost rhag cael ofn bar:

I dyst cadwasont yw dir

Idhedhf a rodhodh i wr.

8Gwrandewaist mynnaist fal mûd

Arnynt Arglwydh kulwydh cad.

Duw eurbarch wyd yw harbed

Poen dhuloes pann dhielid.

9Dyrchafiad nercymered

Yn dawn yw yn Duw ni wad:

Crymmwch yw seintwar barod

Santaidh yw Duw, gwiwdhuw gêd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help