Psalmau 115 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y CXV Psalm. Deuair hirion.

1Nid nyni nid nyni nêr

Yn felus d’enw a foler:

O herwydh fy nâf hoewryw

Dy drugaredh ryfedh ryw.

2O Duw paham y dywaid

Y cenhedloedh er oedh raid?

Pa le y mae gwae or gân

Oer araith i Duw ’r owran?

3Yn Duw ini a’n dawn oedh

Iawn afael yn y nefoedh.

Ef a luniodh yn flaenor

Ef a wnaeth a fynnai ior.

4Eu holl dhelwau gau a gaid

O ’r arian a goreuraid:

Ag a wnaethai os âi son

Gildynnus gwaela dynion.

5Igenau yn gau a gânt,

O fowrair ni lefarant:

A llygaid sydh dydh ae dwg

Ni welant vn o olwg:

6Mae clustiau yn gau vwch gwên

Ni chlywant yn iach lawen:

Ae ffroenau i gau o gûr

Nid aroglant dro eglur

7A dwylaw sydh delw i sant

Waith amlwg ag ni theimlant:

A thraed vdhynt athrodwaith

Ni leisiant ni cherdhant chwaith

8Sawl ae gwnel i gornel gau

A’n hwy weithian fal ’nwythau:

A phob dyn o honyn hynt

Di-dhuw a ’mdhiriaid ydhynt.

9Tûy ’r Israel nid gwael a gaid

Oedh orau i Dhuw ’mdhiriaid:

Ef yw ’n porth cymorth yn cân

Hynod taerwalch yn tarian.

10Tûy Aron sy vnion swydh

Eurglod a goelia ’r Arglwydh:

Ef yw ’n porth cymorth yn cân

Hynod taerwalch yn tarian.

11A ofno ’n nêr syber swydh

Eurglod a goelia ’r arglwydh:

Ef yw ’n porth cymorth yn cân

Hynod taerwalch yn tarian.

12Duw a’n cofiodh down‐rodh da

Band weithian fo ’n bendithia:

Bendith i Israel hael hêdh

Ag Aron bendith gwâredh.

13A ofno ’n nêr fwyn iawn iaith

Ae bendithia benn doethiaith:

Ofni ’r arglwydh rhwydh y rhann

Bû achos mawr a bychan.

14A Duw ’n deg a chwanegai

I chwithaw dhoniau lle dhai:

Sef arnoch gwydhoch godhiant

Ae roi ’ch plith ag ar ych plant.

15Brig bendigedig ydych

Gann yn nêr ag vnion wych:

Y nâf a wnaeth y nefoedh

Duw a ran a daear oedh.

16Ef piau golau gwelir

Y nef ie ’r nef yn wir:

Rhoes y dhaear hawdhgar iôn

Downus yw i blant dynion.

17Y meirw ni all y marn i

O fael ytoedh fawl ytti:

Na ’r rhai a dhisgyn yn rhwydh

Dyst wiwran ir distawrwydh.

18O hynn allan lân lenwi

Da gwnn y bendithiwn di:

Yn dragywydh rydh heb rûs

Molwch yr Arglwydh melus.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help