1Paham arglwydh rhwydh fy rhi
Am gwyrth wyd im gwrthodi?
Ag y llidi gwall ydoedh
Wrth dy dhefaid kannaid koedh:
2Y dyrfa, koffa i kael
A brynnaist heb air anael.
Mynydh Seion ffrwythion ffraeth
Ytty fydh etifedhiaeth.
3Bwrw dy elyn brad alar
Benn dorr mwnwgl gwrwgl gwar:
Kans vdfawr kwynais adfyd
Yn dy seintwar bar y byd.
4D’elynion arw-don oerder
Aml i nad ith deml ner.
Gosodant gweithiant i gau
Yn aruthr i banerau:
5Iw gweled y rhed yrhawg
Ail seiri diflas orfawg.
Ag yn arwain gwnn oeri
Bwyill nadh o ball i ni:
6Twybil a gyrdh ond tebig
Torrant a darniant a dig
Y kerfiad hardh ar kyrf teg
A lluniau dibwyll waneg.
7Yn dy semt war bar lle bont
O rysedh tan a roesont:
Ath annedh berffaith vnawr
A fwriwyd Duw lwyd i lawr.
8Llosgwn medhant drwy antur
I lluestai na f’ai fur:
9Nid oes yn broff wyd na dyn
Nag ar wydh-waith na gwreidhyn,
Ag nid oes dyn gwann dyst aeth
Or byd a wyr wybodaeth.
10Pa hyd arglwydh rhwydh er hynn
Ith gabla gwaela gelyn?
11Brysia moes da oes o daw
Dheholiad dy dheheulaw.
Tynni in llenwi a lles
Fannwyl dy law o’th fonwes.
12A difa nhwy di-fwyn hâd,
Duw frenin diau freiniad:
Pób iechyd driaeth gwnaethoff,
O fewn bŷd funyd di‐fost.
13Dy rymm di-warth a barthodh,
Y nodhyn fôr-gerwyn fodh:
Drylliaist bennau dreigiau drâw
Yn y dyfroedh Ion di-fraw.
14Duw drylliaist benn lown-ben lwyth,
Lefiathan di-lan dylwyth:
Ith lu tal yn anialwch,
Rhoist ef yn fwyd drom-glwyd drwch.
15O fol y graig wenn-graig (Iôn,)
Hoff ennyd dugost ffynnon:
Rhoist afon oi cheu fronn chwyrn,
Sychaist aberoedh si chwyrn.
16Ti biau oydhiau lle dôn,
Di-wad a nôsau duon:
Ti a luniaist olevni,
A haul têg a hwyliyt ti.
17Di osodaist dwys ydoedh
Dayar‐derfyn (nodhyn oedh:)
Hâf a gayaf hŷf‐gofijr,
Gwnayt adeg Iôn têg i ’n tîr.
18Cofia hyn, gabl‐gelyn gwarch,
Yn d’erbyn, Iôn diweir-barch:
Pobl ynfyd (lown-fryd lw,
Du‐nôd) difenwant d’enw.
19Enaid pûr dy durtur dôn
(Geli) na dhôd ir gâlon.
Na anghofia dyrfa (dâd)
Dy werin, oer‐in irad.
20Dy gyfammod wiw-glôd wŷch,
Dhi-drais (ô wir dhuw) edrych.
O drowster lle arferir,
Llawnwyd tywyllwyd y fîr.
21Tlawd digarad yn wradwydh,
Na dhychweled (sur-ged swydh:)
Anghenus, truan an-wych,
Moled d’enw gwiw-dw gwych.
22Dadle d’achos ar osteg,
Cyfod ô Dduw dawn-dhuw d[ê]g:
Coffa dy gabledh hedhyw,
Gann ynsydion sythion syw.
23Na anghofia lowna lais,
D’elynion mulion malais:
Dadwrdh pa rai heb drai dring,
Dorfoedh ith erbyn dirfing.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.