1Bydh drugarog doniog dad
Rhag fy llyngku haedhu hud
Bevnydh or rheibydh yn rhod
A gwatth awydh gaethiwed.
2Fyng-wilwyr benn wyr be vnydh
Am llyngkant rhyfelant fodh
Llawer dyn im erbyn medh
Helpia fi gorucha gradh.
3A phann ofnais drais gwr drud
Gobeithiais i ynod i’r tad
Moliannaf Dhuw mawl hynod
Yw eiriau gorau gweryd.
4I dhuw arglwydh hylwydh hen
Ymdhiriedaf gweithiaf gan
Nid ofnaf gwaelaf gâlon
Na dim a wuelo vn dyn.
5Gwarcha ’ngeiriau beiau beth
Im erbyn (Duw) bydhyn byth:
Imedhyliau geiriau gwth
Im kablu ni fu y fath.
6Yingasglant edrychant drwyth
Ol fy sodlau geiriau gwaeth
Yspiant gwiliant yw gwaith
Fy enaid a fu anoeth.
7Tybiant y diengant bob dydh
Yn oerweilch iw hanwiredh:
Ti a dhofi keli kudh
Ith lid dhynion fellchion fodh.
8Di a rifaist kedwaist mi ae kaf
Dagrau dholur llafur llef
Y rhai a wylais a rhif
Sy ’n dy lyfrau gorau gof.
9Pann wedhïwyf rhwyf pe rhôn
Arswyd gwelwyd im gelyn:
Ffo oedh raid yw ffiaidh rann
Wyd gida mi geli gwnn.
10Moliannaf Dhuw mawl hynod
Yw ciriau gorau gweryd:
Mawl ir arglwydh rwydh a red
A geiriau o wir gariad.
11I Dhuw, arglwydh hylwydh hen
Ymdhiriedaf gweithraf gan:
Nid ofnaf gwaelaf gâlon
Na dim a allo un dyn.
12I Dhvw talaf adhewid
A moliant nid medhiant mud
13Amod hir am yt wared
F’enaid rhag angau funyd.
Deliaist er ioed fyurhoed rhann
Rag llithro na syrthio ’n synn
I rodio fry ger dy fronn
A llewych gwyr byw llawen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.