1Gwynn i fyd iawn enhyd naf
A ofno ’n wir fy nuw nêf:
Yr hwnn a rodio yr hâf
Hôff yw ’r dhysg yn i ffyrdh ef.
2Mwynhai ’n wir mae ’n hoyw i ni
A dhêl o waith dy dhwylo:
Gwynn dy fyd gwiw nôd wyf fi
Da yw ytty Duw etto.
3Dy wraig fydh fal gwinwydh gwâr
Ffrwythlawn fry ith dûy ath dwr
Ath blant ffynniant hoff iown-war
Ynghylch dy fwrdh gwrdh y gwr.
4Diau fal hynn dyfal oedh
Bendithir gwelir in gwydh:
Y gwr a ofno ar goedh
Oreurglod Dhuw yr arglwydh.
5Cai fendith y kyfiownder.
O Seion gan ion yn wir:
Yn deinioes gwelt ’n dyner
Gaersalem lwyth grasolwir
6Yno gweli ni a goeliwn
Wyt eurwalch ytty wyrion:
A thangnefedh gwêdh y gwnn
Ar Israel diwael yw ’r dôn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.