1Mynych a châs i’m blinasant
O’m ieuenctid i’m erlidiant,
Mêdh Israel sant gwarant gwan.
2Mynych a châs im blinasant.
O’m Ieuenctid im erlidiant
Ni orfuant ar feiau.
3Oer dhwyso fyng-hefn ardhasant
Is twyn iso estynasant:
Dangosant yno gwysau.
4Yn nêr cefais yn ior cyfion
Tyrr i tresau raffau preiffion
Anuwiolion yn olau.
5Ag os Seion a gâs-aant
Cywilydhier accw o ludhiant
Hwy giliant oll yw gwalau.
6-7Hwnn ni leinw, mae’n wael an-wr
Pwl a dyras law pladurwr
Braich cynullwr cyfiwr cau.
8Ni dhowaid rhaib wrth fynd heibio
O dûth oernad bendith arno:
Bendith Dhuw fo band iaith fau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.