1A’m llef y gwaedhaf a’m llais
Ar Dduw, oglyd dhiwaglais;
A’m llef y gwaedhaf hefyd
Ar Dduw tra b’wyf byw mewn byd:
Ac ef yn rhwydh, gwiwlwydh gu,
Gywreindeg, oll a’m gwrendy.
2Yn fy nhrallod, gyfnod gais,
Cysson yr Arglwydh ceisiais:
Rhedodh liw nos yn rhydost
Fy archollion taerion, tost:
F’enaid isod gwrthododh
I dhidhanu, fwyngu fodh.
3Medhyliwn am Dduw olud,
I’m trallod, merwindod mud;
Pan darfysgyd f’yspryd fwy,
A gwedh awen, gwedhïwy’.
4Deliaist fy llygad dolur
Yn neffro, lawn‐gyffro gur;
Dychrynais, synnais ennyd,
Heb lefaru (fwy‐fwy fud).
5Yna ystyriais anian
Y dydhiau gynt, rwydh‐hynt ran;
A blynydhedh, ryfedh rêd,
Yr hen oesoedh hynawsed.
6Medhylia mau eidhilwedh
Am fy nghan, wirion‐gan wedh:
Myfyrio ’r wyf, dhi‐nwyf‐un,
Diwarth hwnt, wrthyf fy hun;
F’yspryd eidhil sy ’n chwilio
Fel hyn ar ryw dremyn dro.
7Ai ’n dragywydh hygudh, hir,
Y cilia ’r Arglwydh coelwir?
Ac oni chair, gair gofwy,
Gwae ’mud maith, ei gymmod mwy.
8I drugaredh a’i hedhoedh
Ai byth‐derfyn idhyn’ oedh?
A balla gair, sadair son,
Ddi‐oed‐oes ei adhewidion?
9A anghofiodh Duw fodhau
(Draw gywir hedh) drugarhau?
Ai mewn sorriant, dyfiant dig,
Cauodh drugarfodh orig?
10A d’wedais, diau wedi,
Dyma ’ngwendid, ofid i:
Cofiaf g’oedh flynydhoedh law,
Dduw haelwych, dy dheheulaw.
11Cofiaf weithredoedh kyfiawn
Yr Arglwydh dhiweirlwydh dhawn;
Cofiaf d’wyrthiau (finnau fab)
O ’r cynfyd, wryd arab.
12A myfyriaf, mwy fwriad,
D’oll weithredoedh rhifoedh rhad;
A chwedleuaf, iawnaf Iôn,
Magiad, am dy dhych’mygion.
13Dy ffordh, O Dduw, Ridhuw rwydh,
Sy ’n tuedhrym santeidhrwydh:
Pa Dduw sydh, gwiwlwydh Geli,
Mor fawr a ’n Duw nawdhfyw ni!
14Tydi, O Dduw, Gloywdhuw glod,
Orau fodh, wnai ryfedhod;
’Mysg y bobloedh luoedhfawr
’Spysaist dy nerth, murnerth mawr.
15Gwaredaist, tra‐gwir ydyw,
(Yn nerthol, fodh reiol ryw,)
Dy bobloedh luoedh ar led,
Meibion hil dhieidhiled;
Siacob dhwysgob, dhewisgair,
A Sioseph hoff, orhoff air.
16Dyfroedh tawel a’th welsant
Di, O Dduw, Synhwyrdhuw, Sant:
Dyfroedh a’th welsant, difrys,
Ac ofnasant, rysiant rus:
Pob dyfnder, Duw Nêr in’ wyd,
(Gŵyn hirfawr!) a gynhyrfwyd.
17Cymmylau, dalfau dilwfr,
Pistyllent, dhylifent dhwfr:
Yr wybrennau, nennau wnant
Dwrw garw lle gŵyrant:
Dy saethau rwyfau lle ’r ant,
Gwrdh isod, a gerdhasant.
18Twrf dy daran tarf diroedh,
Amgylch‐glywyd flingryd floedh:
Melltennau (amwyllt anian)
Goleuant fyd, synfyd san:
Cyffrodh a chrynodh o’i charn
Y dhaear grafgar gryfgarn.
19Dy ffordh sydh, Dofydh difai,
Yn y môr, sugnfor, lle sai’:
A’th lwybrau ’n olau eilwaith
Sy ’n y dyfroedh, moroedh maith:
Nôd anian, ni adwaenir
Ol dy gamrau, geiriau gwir.
20T’wysaist dy bobl at oesi,
Dy gorlannaid defaid di,
Drwy law Moses liwdes, lan,
Ag Aaron fwyngu, eirian.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.