1Datganaf farn hedh trugaredhion
Yt ner y canaf hoewnaf vnion:
2Deuallaf, gwelaf argoelion perffaith
Nes delych yn faith iawn affaith ion.
Af mewn perfteidhrwydh ag arwydhiō
Etto im coelio im ty am calon:
3Ni ro’n wiranwir o flaen ion euraid
Yngwydh fy llygaid enaid vnion.
Gwaith cildynnus rhus y rheidusion
Ni lyn wrthdy was cas y cowson.
4Yna fo gilia’r galon wrthnysig
Odhiwrthwy a dig dhierth o don.
Nodaf nod dhannod y drwg‐dhynion
5Trof ymaith yn faith fal na fython:
Hwnn o enllyb tyb atebion dirgel
Yw gyfaill a wnel gof llawen ion.
Balch drwg a golwg vchel galon
Ni alla odhef hynny lludhion:
6Ffydhloniaid lygaid olygon yn wir
A sydhan yw tir o fedhiant ion.
A rodio ’n berffaith iownwaith vnion
Dhawn im gosod fydh vn om gweision:
7Ni thrig hyf gennyf gwynion im trigle
A dull anaele dwyll a wnelon.
Ni chadarnheir gida’r gwirion
Im gwydh o gelwydh a fygylon:
8Borau naf torraf tirion or tir maith
Hyll enw eilwaith holl anuwiolion.
Gann dhadwraidh a faidh i holl fodhion
Yr holl weithredwyr wyr anwirion:
Diras o dhinas dhynion yr aflwydh
O dir yr Arglwydh dhwys swydh dha son.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.