1Bydhwch awen lawen lwydh
Ner eurglod yn yr arglwydh:
Ar gwyr vnion gyfion gel
Diolchwch im Duw eilchwel.
Da gwedhai yn deg adhwyn
I gyfion fyth gofio ’n fwyn.
2A mawi ir arglwydh fo ae mynn
Yd[o]lwg, ar y delyn:
Ar y r[e]îol feîol ferr
A degtant luwt rhag digter.
3Kenwch idho ych caniad
Kan o newydh a rydh rad.
Kan yn vehel gwel mae gwych
Ku siriol gân kysurwych.
4Gair Duw ysydh dedwydh don
O wir annerch air vnion.
Ae holl weithredoedh ae hynt
Oe nodi kyflawn ydynt.
5Fo gar ner gyfiownder faeth
Yn deg a barnadigaeth.
Llawn yw ’r dhaer hygar hi
Dhuw vnion oe dhaeoni.
6Drwy i air draw a evrer
Y nef a wnaeth yn naf ner.
Ae holl luoedh gyhoedh gau
Ae anadl teg oe enau
7Kydtyrrodh ackw hyd teirawr
Y dyfroedh ar moroedh mawr:
Ar dyinedh ryfedh wir ior
Drwy i osod yn drysor.
8Ofned holl dhaear aren
Yr arglwydh mowrlwydh Amen
Pawb i[’i] byd oll pybyr byw
Ond haw[d]h ae hofnant hedhyw.
9A dhowad heb wad yn bur
Weithian mae wedi wneuthur
Eorchmynnawoh goruwch maenawr
Iorllen, a safodh ir llawr.
10Kyngor a chwedl y kenhedloedh
A dyrr Duw er dewred oedh:
Amkanion dynion nid da
Ef weithian ae difetha.
11A chyngor hoe-ior ac hawl
Gwedhus a sai’n dragwydhawl:
Ae fedhwl yn dhifadhau
A be[r]y byth obru heb au.
12Gwynfydedig brig i bro
Heinydh yw ’r nasiwn honno.
Os Duw yrhain o sior rhwydh
Drwy i erglyw ydyw ’r arglwydh.
Sawl a dhewis a ffris ffraeth
At fedhwl o etifedhiaeth.
13O nef yr arglwydh yn wych
Wiwdrefn ir llawr a edrych:
Ag edrych yn symlwych son
Ond hynod ar blant dynion.
14Oe drigle Duw rowioglais
Edrych a gwyl dewrwych gais.
Ar bawb a drig gynnig gwar
Iraidh yw ar y dhaear.
15Ag a lunia galonnau
Hynn a gad i hŷn ag iau.
Ag a dhevall gwedhiwn
Oll oe gwaith felly y gwnn.
16Ni chedwir brenin rin ri:
O fowredh llu nifeiri:
Na gwared nawr y kawr ku
Drwy fowrnerth diwair farnu.
17Ni all march oe barch ae borth
Goeg kymell ond gwag kymorth.
Ag ni weryd gann oerwerth
Oe fawr nwyf ofer ae nerth:
18Golwg Duw sydh yn gwilio
Hwnn oe fewn ae hofnai fo:
Ar sawl a ymdhiriad gwrs hedh
Dro gwirion yw drugaredh.
19A gweryd draw e gerir
Rag angau yw eneidiau ’n wir:
Ae kadw fyth eu ked a fynn
O gwyn awydh rhag newyn.
20Taria fy enaid tirion
Yn yr arglwydh wiwlwydh ion.
Anturiol ef yw ’n tarian
An kymorth gloew ymborth glan:
21Ag yndho pann syrthio son
Gwelwch ym llawen galon.
Yn hyder (trymder nis traidh)
Seintwar sydh yw enw santaidh
22Bid dy drugaredh fedhiant
Arnom arglwydh oth swydh sant.
Megis ynod gyfnod gais
Erioed ir ymdhiriedais.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.