Psalmau 47 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y XLVII Psalm. Hupynt byrr.

1Pobloedh iownus

Pybyr dawnus pawb or dynion:

Kurwch dhwylaw

I dhuw bwylaw o wedh haelion.

Llawen wenwch

A choel genwch vchel ganon:

Ag awenydh

O lawenydh olau hinon.

2Erchyll gwelwch

Oni chelwch, yw ’n vchelion:

Brenhin claear

Ar y dhaear ir Idhewon.

3Gostwng mynnawdh

Abl y tynnawdh all bobl tanon:

Kenedl lysedh

O faith rysedh a fathrasson.

4Ef fu’n rhannu

In medhiannu modh i weinion:

Vrdhas mago

Kariad Iago keredigion.

5Duw ni phlygawdh

Gwledh ys dygawdh glodhest digon:

A llais gloewrydh

Kowrain hoewrydh vfgyrn hirion.

6Mawl datgenwch

I dhuw kenwch adhaw kwynion:

Ag adholiant

Teyrn foliant tro nefolion.

7Duw frenhinwalch

Diwair rinwalch daear vnion.

I fawl gellwch

O deuellwch nid fal deillion.

8Duw ’n llyfassu

I deyrnassu yw drwn wiwson:

Yw drwn fadhau

Hwnt ae radhau sant ior eidhon.

9E gasgl i gyd

Y bobl or byd bu abl ir bon:

At blant bu lwydh

Abram ebrwydh arwydh wyrion.

Ef yn chwarian

Ydyw ’n tarian an dawn tirion:

A thra safer

I dyrchefer drwy orchafion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help