1Clôdforwch môlwchy-myd iongwiwlan
A gelwch i ênw hesyd:
I rad dwedwch ae rydyd
Weithredoedh i bobloedh byd
2Clodforwch molwch ior mau vgeinmwy
I ganmol oedh orau:
Traethwch, a gwêlwch nad gau
I dhidwyll ryfedhodau.
3Glodhesiwch rhodhwch fawl rhwydh yn vnion
Yw enw Duw n ych swydh
Bid llonn i galon im gwydh
O fwrglod a gar f’arglwydh.
4Ceisiwch arglwydh rhwydh a rhodher yn wyrth
I nerth ae gyfiownder:
Cais wyneb cynn neb yn ner
Heb ymswrn yt bob amser.
5Cofiwch wédh rhyfedh rhîson yn y rhai
A wnaethai ynn weithion;
I farn ae wyrth fawr iawn ion
Oe enau a dhoeth yn vnion
6Had Abram, ae cam o dû ’r cîg isod
Weision bendigedig:
Meibion Iaco dro a drîg
Ail wedi ’n detholedig.
7Yr arglwydh gwiwlwydh yw ’n Duw gwar i ni
Yn y nef ae seintwar:
I farn yn gadarn a gar
I dhiwedh yr oll dhaear.
8Cofio drawadhaw wydhyd bob amser
Yn dyner daennyd:
I air gorchmynnodh wryd
I fil o genhedlaeth fyd.
9Ammododh oe fodh bann fû i Abram
Yn ebrwydh yw helpu:
Fely fyngodh i fodh fû
I lw i Isaac, i lesu:
10Gosododh nôdodh nid yn wael Idhedhf
Oedh wydhfa Iaco hael:
Ae gyfamod hynod fael
Beth oes-rwym byth i Israel.
11Gann dhwedyd, ennyd nid anwir rhwydh-hynt
Rhòdhaf ytty fowr-dir.
A Chanan dâw ith randir
Etifedhiaeth helaeth hir.
12Oedhynt anaml gynt fo gaid ywch wedi
Ychydig oedh honnaid:
Oedh vthr ag yn dhieithraid
A Duw oe blaen da o blaid.
13Rhodiasant doethant nid fal dall o genedl
I genedl vgeinwall:
O deyrnas goweithas gall
Orig hyd at bobl arall.
14Ni adai gwelai ar goedh raith rwymiad
Orthrymu i bobloedh:
Cerydh blin i frenhinoedh
Oe hâchos hwy owchus oedh.
15Na chyfyrdhwch trwch trochynt yn vnawr
Rhai eneiniog ydynt:
Na dhrygwch cêrwch dhau cynt
Proffwydi ym praff ydynt.
16Gâlw i’r tîr yn wîr a wnaeth am newyn
Mewn awydh digon caeth
Fe dhinystria fâra faeth
Ae hylawn oll gynheliaeth.
17Anfônodh, gyrrodh nid oedh gâs na blîn
Wr oe blaen yn adhas:
Gwêrthwyd fôr a gwerth dira[s]
Sioseb iôn wyneb yn wâs.
18Gefynnau yw sodlau ae said a fwriwyd
O fowredh rhai diriaid:
Doeth yr haearn cadarn caid
Ae dynnu hyd i enaid.
19Hyd yr amfer nêr o nêf a doeth wîr
Doeth i air yw adhef:
Gair f’arglwydh swydh sy odher
Pêr fû i dhawn ae profodh ef
20Y brenin nâf, gwîn anfonodh aelaw
Eilwaith fo ai gollyngodh:
Llywodraethwr filwr fodh
Rhydh a hyf ae rhwydh-haodh.
21Gosododh cafodh wr coeth oreu dawn
Ar i dûy yn fowr-dhoeth:
Ag yn llonydh dhedwydh dhoeth
A gafael ar i gyfoeth:
22I faeth athrawiaeth wrth raid a disîgl
Yw dwysogion mowrblaid
Ag i dhysgu plannu plaid
Doeth yn wir daith henuriaid.
23Aeth Israel di-wael i daith a hoew dro
Hyd yr Aipht yn berffaith:
Ag aeth siacob ae obaith
I dir Ham band da yw ’r rhasth.
24I bobl cynydhodh yn bybyr weithian
Er gwaetha holl gas-wyr:
Ag yn gryfach gwchach gwyr.
Iawn obaith nai gwrthnebwyr.
25Yno tôrdh kiliodh i calon dallweilch
I dwyllo i weision:
I gashau ag nid gwiw son
I Dhownus bobloedh union.
26Moeses oe fonwes anfonawdh ar led
Ir wlad honn ae gyrrawdh
Ag Aron hwnn yn hawdh
Oedh weision a dhewisawdh.
27Arwydhion gwirion yw ’r geiriau wedi
A osodant bwythau:
Yn nhir Ham nid cam i cau
Ydoedh i ryfedhodau.
28Gyrrodh anfonodh anfwyniant yn fflwch
Dywyllwch lle dallant.
An-ufudh-weilch ni fydhant
Yw air ef sef Duw ior sant.
29Troes dyfredh pur-wedh paro[d] yn edliw
Yn waed-lawr dhisberod:
E ladhodh ni fynno[d]h fod
Yw pesci dhim or pysgod.
30Aigiodh llyffaint haint egwan hir dyras
A dariodh yn y tir:
I stafelloedh ydoedh wir
I brenhinoedh baru henwir.
31Diwedodh rhodh fy rhwy ’n tuedhn
Nid didhig oedh i pwynt:
O gymysg plâ ag amwynt
Llau obru yw hau yw brô hwynt.
32Y glaw mysg cenllysg lle cân aniwed
Ae newyd yn drwstan:
A fflammau oriau eirian
Yn y tir yn ennyn tân.
33Ffiguswydh gwinwydh a gâd yf orig
Wedi torri ’n wastad:
Diwair allu fu ’r drylliad
Gwedi a gloes goed i gwlâd.
34Gwedi haint hoewfraint difrif cael crwydr
Celiog rhedyn digrif:
Daeth lindys, ryfygus rif,
Yn aruthr ag aneirif.
35Holl las-wellt y tir lle llaesant eu rhyw
Y rhain ae porasant:
Ag yn gâs difethasant,
Heiniar y dhaear lle dhant.
36Trawodh e ladhodh ni wnaeth lai nôdodh
Gyntanedig pob rhai:
Yno i holl nerth angerthai
Blaen-ffrwyth eu tylwyth ae tai.
37O gyfyrgoll oll dug allan yn wir
Yn llawn aur ag arian:
Yn i llwythau ’n well weithian
Heb vn llêsg, o bai ’n i llan.
38Llawen fuyr Aipht ae lliwiynt poen waeth‐waeth,
Pann aethon yw helynt:
Syrthiasai lle gwelsai gynt
Dirnad i harswyd arnynt.
39Rhôdh gwmwl bygwl bû agos i n dawn
Yn dô ar dhechreunos:
Yno a thân a wnaeth ûn‐nos
Lawn wyrth i oleuo nôs.
40Gofynnant yw mant ôch or môdh — sysiāt
A sofl‐iair oedh i rhodh:
A bara ’n ras, bur iawn rodh:
A dull nefol diwallodh:
41Y graig a holltodh groew eigion a rhydid
Dwr rhedodh oe dwyfron:
Aeth afonydh m[a]wr sydh son
Dhwys iach vwch lleoedh sychion.
42Cans oe fodh cofiodh nid cas yw seintwar
I air santaioh llownras:
Ag Abram dhinam dhownwas
Hên oedh wych hwnn oedh i was.
43Pybyr dug i wyr Duw gwirlon ollawl
Allan i le tirion:
Ae frig etholedigion
Mewn gorfoledh wychedh ion.
44Yn wir y rhoe dîr i’r rhai dall odli
Y cenhedloedh anghall:
Enillant ni welant wall
O fawr air lafar arall.
45Fal o dhydh i dhydh dha waith kû ydoedh
Y cadwent i gyfraith:
O gynnal i dhedhf gannwaith
Molwch f’arglwydh mowrlwydh maith.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.