1Barna fi Duw tri rhag trais gowreinwaith
Mewn gwirionedh rhodiais:
Ir arglwydh gyfarwydh gais
Ior odiaeth ymdhiriedais.
2Ni lithraf o chaf wych ion o brifiant
Gennyd brofi ’nghalon:
Achwilia Duw vchel don
Keli fynghefn am kalon.
3O flaen fy llygaid fael vnwedh dygais
Dy garedigawl rinwedh:
Ith lys y rhodiais ath wledh
Ior enwog ith wirionedh.
4A choegion dhynion dhoniawg oer adwyth
Ni rodiaf yn serchawg:
Na chyfedh rhyfedh y rhawg
O ednabod dav wynebawg.
5Kas gennyf ior hyf oer hir lle adfyd
Genelleidfa dhihir:
Ni chwmpnïais eurais wir
Er hynny ar rhai anwir.
6Ymolchaf fy naf o fewn awr gwar iawn
Mewn gwirionedh tramawr:
O gwmpas fu vrdhas fawr
O Duw wellwell dy allawr.
7Diolchgar lafar oleufedh da raith.
A draethaf om gorsedh:
A rhof allan weithian wedh
A rhifaf dy waith rhyfedh.
8Kerais Arglwydh rwydh o rodhion downus
Dy annedh yn Seion:
Ar mann y trig didhig don
Kofus, d’anrhydedh kyfion.
9Na dhwg fenaid naid an iawn ochydoedh
Fal pechadur digllawn:
Nam bowyd o dhybryd dhawn
Kur alaeth gida ’r krevlawn.
10Idwylaw gwiliaw y gweli yn llwyr
Yn llawn o dhireidi:
Ae dehevlaw draw (duw dri)
A bar obrwy a breibri.
11Mewn gwirionedh hedh kyhoedhawg hyder
Rhodiaf yn allvawg:
Gwared fi fy rhi yrhawg
Gwirion a bydh drugarawg.
12Am troed a llai oed ir llawr sydh gyfion
Mae ’n vnion mewn vnawr:
Dy foliant hyd fy elawr
Dra fwy fy ir dyrfa fawr:
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.