1Fyenaid gannaid ar goedh
Eurglod bendithia ’r arglwydh;
O nuw wrth rwysg nerth a rhaid
Trwm er ioed tramawr ydwyd.
Gogonedh gosgedh gwisgai
Hardhwch a welwch oedh wiw:
2Goleuni welwch galennig
Ail i wisgad dillad teg.
Yn naf sy ’n tanv nefoedh
Fal llenn nid amgen yn d’wydh:
3Hwnn sydh adail sail da swydh
Nid afraid yn y dyfroedh.
Rhoes gymylau rhwysg mowl-air
Iw arwain hoen eirian hwyr:
Yn rhodio, ni hir wadant,
Ar adenydh gwydh y gwynt.
4Gwnn weithian hwnn sy ’n gwneuthur
Ysprydion gennadon nêr:
Ae wenidogion sôniant
Yn fflamllyd ir byd ly bônt.
5Daear adail a sailiodh
Ae sylfeini ri o radh:
Fal na siglo gwirio ’r gwedh
Dro gwiw byth yn dragywydh.
6Toais hi a brisc fal gwisgad
Y gordhyfnder hyder rhôd:
Ar fynydhoedh dyfroedh dônt
Os yw byfedr a safant.
7Rhag cerydh fal rhwyg corwynt
Yw ffauau gwnn y ffoant:
Rhag swn dy daranrhwyg sias
Vcho rhêdant yn frowchus.
8E gôdodh mynydh gwedi
A disgyn dyffryn ond da:
Yr hwnn a seiliaist iôr hwnt
Yn sôlas adhas vdhynt.
9Dy derfyn fel nad êlont
Gosodaist rhodaist ar hynt:
Fel na dhychwel lle gwel gwyr
Oedh wiw i gudhio ydhaear.
10Troi ffynnhonnau gorau gwêdh
A fynnaist i’r afonydh:
Y rhai a gerdhant yn rhwydh
Mae ’n adhas rhwng mynydhoedh.
11Yn y maes rhôn a mesur
I fwystfilod dhiod dhwr:
Ar rhai gwylltion gyflon gâd
Sy iach a dyrr i syched.
12Yno trig o antur rwydh
A nwyf adar y nefoedh:
O’r cangau gorau ir gwynt
Yn lliosawg y lleisiant.
13Dyfrhau ’r mynydh bydh, da ’r bôd
Oe vchelder nêr now‐rad:
Daear iawn‐llwyth a ffrwytha,
O’i weithred, trwy iawnged tro;
Daear a ’n llawn o ’r diwedh
O ffrwyth ei weithred, hoff rodh.
14Pair wellt i anifail, pair ŷd
A llysiau i dhyn, oll isod;
Dwg yna y bara yn bêr,
Wirdhuw, allan o ’r dhaear:
15A gwin draw, a wna ’n llawen
(O goel in’ daw) galon dyn:
Olew a bair disglairiaw
Eu hwynebau, genau gwiw;
I gynnal dyn a’i galon
Obry cair y bara càn.
16Llawn sugn, o lluniais egni,
Prenniau rhwydh f’Arglwydh yw fo;
Cedrwydh Libanon blannodh,
Y rhai ’n ni’s gollwng yn rhydh:
17Ciconia a ’r adar radh,
Yn adail, ir ffynnidwydh.
18I ’r creigiau dring cwningod;
A ’r geifr ir mynydh, wir gêd.
19Gwnaeth leuad, o’i rad difreg,
A’i dodi ’n bryd nodedig;
Yr haul a ŵyr (yn y rhod)
A choel wedi, ei fachludiad.
20Rhoi dywyllwch, rhyw deillion,
A nos fydh, o naws y fan;
Yno ’r ymlusga o
Nacura
annwyd
Pob anifail call or coed:
21Llewod a rûa ’n llûoedh
Llwyr wae am i prae or praidh
A chann Dhuw wych iawn dheuall
I geisio bwyd gwoseb oll:
22Pann gôdo er twymno ’r tês
Y llêchant yn i llôches.
23Aiff dyn yw waith maith a mael
Hîr orchest yw hwyr orchwyl:
24Lluosog nêg hyder rhwydh
Iaith ry-dêg dy weithredoedh.
Gwnaethost hwynt gweneithus dyb
O waith anadl doethineb.
Llawn yw ’r dhaear wâr o gwnn
O’th gyfoeth araith gyfion:
25Llyna mae ’r môr mawr, llonwych,
A grym y mae ’n swnio ’n groch;
Ymlusgiaid llonaid y llê
Brau fydio heb rifedi.
A Bwysifiloedh byst filiwn
Mawr a bâch o amryw benn.
26Yno ’r aiff wrth enwi i rann
Y llongau ’n gall o angen:
Lluniaist fôr-farch i barch bû
Iowndhull o chwarae yndho.
27Disgwyliant ynôl d’olud
Oe braint gael bwyd yn i bryd:
28Casglant a gaffant dan gôf
Bann rodhech bu ’n wir adhef.
A gori law aelaw ion
A cull da idiwellir:
29Cudhiych d’wyneb hoewdeb hynt
Och ar hynny a dychrynnant.
Tynn dy anadl cystadl-wych
Trengant a llithrant i’r llwch:
30Gyrrdysbryd vnbyd ennaint
Ar hyd yno crëir hwynt.
Adnewydhi gwelli gûr
Dhiwael, wyneb y dhaear.
31Gogoniant gwiw yw gynnwys
Duw ’n dragywydh fydh dan fais.
Duw a lonhycha or diwedh
I waith yn berffaith y bydh:
32Edrych ar y dhaear dhû
O gwrr yno hi a grynna.
Cyfwrdh fynydh Duw kyfion
A hwy a fygant o hyn:
33Canaf ir Arglwydh rwydh rad
A’m awydh yn y mywyd.
I’m naf y canaf, cênwch
Tra fwy byw mewn tyrfa bach:
34Mêlys gantho deimlo dad
Fowrder fy holl fyfyrdod.
Llawenychaf llon iechyd
Yn yr arglwydh gwiw-lwydh gêd.
35Beunydh derfydh pann darfar
Haid pechaduriaid o dîr;
A wnêl gamm ar bob ammod
Ni bydh vn drygdhyn mewn byd:
F’enaid, bendithia Fannwyl
Mola ’r Arglwydh, gwiwlwydh goel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.