Psalmau 42 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y XLII Psalm. Englyn Vnodl vnion.

1Fal y karw hwyrfarw wedi yrfa daith

Y dwr foe chwenycha:

Am enaid mi dhamvna

Ar dy ol yn dhedhfol dha.

2Sych fy enaid rhaid yn lle rhodiaf byth

Am dhuw by in a garaf:

Pa bryd yn d’wydh rhwydh yr âf

I gyssegr ymdhanghosaf.

3Dydh a nos vnnos yna yn egrwydh

Fy nagrau yw mwyta:

Trydar klowais nid trada

Mae dy dhuw amod oedh dha?

4Oeigion kalon koelier Duw dwedais

Diowyll goffa mowrner:

Am ym fyned nodhed ner

Dawn afiaeth gida y nifer.

Mawl genais blaenais a bloedh a da dhawn

I duy dhuw ar gyhoedh:

Fal mowrder nifer yn oedh

Yn glodhest yn y gwledhoedh.

5Pa dristyd f’enaid pa drystiaw ym mewn?

Aros mae Duw ’n helpiaw:

Waetiaf ar Dhuw naf a dhaw

Wych wedh rhof dhiolch idhaw,

6Am dygymorth am porthes o fwyn wedh,

Duw fy nuw dirodres:

Syrth f’enaid i laid heb les,

Am dy goffa mad gyffes.

O dir vrdhonen hyd ar y mynydh

Hermoniaid aflafar:

Or bryn bychan gwiwlan gwar

A maes a elwid Misar.

7Vn dy[f]ngadr Raeadr syn rhuo fann arw,

I tann arall ogof

Dy ffrwd tonnau ’n gwau dan gof

Ond traws ir aethant trosof.

8Dengys dydh yn rhydh ar ei hyd deg ran

I garedigrwydh hydfryd:

Kanaf y nos gyfnos gyd

Wedhi mau wiwdhuw mowyd.

9Wyd fy ffelaig kraig kwrr ogol a dadl

Dwedaf wrth dhuw mowrgof.

Pam im gedaist gwedaist gof

O sewn ing fyfi ’n anghof.

Pam naf y rodiaf er hoew‐wadu bar

A galar heb gelu:

Am gelyn y deldhyn du

A gwarth roch im gorthrechu.

10Tyr yn chwyrn f’esgyrn e fydhym gilwg

Gann y gelyn kelsydh:

Dwe dant ri boeni beunydh

Mae dy dhuw am wawd i dhydh?

11Pa drist yd fenaid? pa drystiaw om mewn?

Aro mae Duw ’n helpiaw:

Waetiaf ar Dhuw naf a dhaw

Wych wedh rhof dhiolch idhaw.

Ef sydh hybarch barch bob awr ymannerch

Am traserch am trysawr:

Am iechyd ennyd vnawr

Am da im oes am Duw mawr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help