1Y cenhedloedh (cwyn hidl-wyl)
Doethant ô Dhuw hy-lyw, hwyl,
Ith ’tifedhiaeth hy-faeth-gu,
Halogant dy demi-sant dûy:
Gorau seiliad Gaer-salem,
Gwnaent garnedhau drumiau drem.
2Cêlain dy weision coeliwyd,
Rhoent i’r adar far yn fwyd:
A chig dy saint fowr-fraint frû,
Isod rhoent er ei yssû:
I fwyst-filod reibnod rann,
Ynni y dhaiar annian.
3Fel Dwr tywalltent ful daith,
Ei gwaed gwirion gyd-gâr-iaith:
O amgylch Salem em-Gaer.
Heb ai cladhai (tew fai taer.)
4Aethom yn warthrudh eitha,
I’n cymdogion, blinion blâ:
Darmerth gwatwar-gerdh dirmig,
I’r gau i’n drysau a dr[i]g
5Pa hyd Arglwydh pur-lwydh, pêr?
A drig dhîg dragwydhogder?
A lysc d’eidhigeth losciad,
Fel tân gy-fowr-dan, a gâd?
6Tywalltdy lid oer-lid oedh,
Gan-hûd-lais ar Genhedloedh,
Nith ’dnabuant nwyfiant naws,
(Dreigiau ynni a dryg-naws:)
Ag ar dhi-râs deyrnasocdh,
(Rhai i’th erbyn eidhyn oedh:)
Ar dy Enw mowr-dw maith,
Annian ni alwent vnwaith.
7Yssênt Iacob o bob-cwrr.
Ewnaent ei drigfa ’n dyrfa dwrr.
8Eyn camwedhau heiniau hâd,
Na chofia (rwydha rodhiad)
Bryssia m cym morth borthi,
(Duw dhiweir-nod rwydh-glôd rî)
Rhag flaened dy nodh-gôd ni,
Drugaredh i’n drâw gyrri:
Cans lleic iawn ydym a’n llais.
(Dduw rwydh dhiwydrwydh dhi-drais)
9Duw ’n iechydwriaeth maeth-rî,
Cynnorthwya nodha ni,
Er gogoniant mwyniant mêdh
Dy Enw, a daionedh:
Gwared ni i’n gwedhi gwyn,
O dâliad, ŷm yn ’dolwyn:
A thrugarha gwcha gwaith,
Er mwyn d’enw, mewn down-waith:
Wrth cyn camwedh wyredh wau,
Baich adwyth o bechodau.
10Pam y dywaid (difiaid oedh)
Cân hu-odlawg Cenhedloedh,
(Geiriau camm a bair am-hwynt)
Ple mae ei Duw hy-dhuw hwynt?
Bid yspys, (gwedhys yw’r gwaith,)
Mysc Cenhedloedh garw-floedh-iaith:
Yn eyn golwg di-wg dasc,
Pa dhilen, pa dhial-wasc
Adhâw am waed Seint-waed sarn,
Dy weision wnaed yn wasarn.
11Vchenaid carchariaid chwyrn,
Doed attad (dyfiad di-fyrn)
Yn-ôl mowredh mwyn-wedh maith,
Dy nerth fowr-nerth ath farn-waith:
Cadw dy blant (mewn cyd-oes)
Marwolaeth, hy-gaeth ei hoes.
12Tâl i’n cymdogion tew-lv,
Ar y seithfed (’frifed frù)
Iw monwes ang-hynnesrwydh,
Y gabledh o-svredh swydh:
A’r honn ith gablasant rhawg,
Di, ô frenhin, Duw freiniawg.
13A ninnav o’n holl annian,
Dy bobloedh gvoedh ar gân,
A defaid o dwf vn-iaith,
Dy wiw‐borfa forfa faith:
A’th foliannwn, fawl vn-yd,
Di ’n dragywydh hoyw-dhydh hyd)
A dad-canwn (doed cein-oes)
Dy folawd nadh-wawd i’n hoes:
O genhedlaeth hy-faeth hawl,
I genhedlaeth gân hoedlawl.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.