1Molwn di nêr tyner têg,
Treythwn dy foliant tra-theg:
Dy enw mewn daioni,
Aros mae ’n agos i ni:
Dy ryfedhau gorau gwedh,
Mynegant hynn mwyn agwedh.
2Y dorf‐lû yn gû pann gaf,
bur-nod inion y barnaf.
3Y dhayar o-fydhar fodh,
Deu-tu adwen dattododh:
Ai thrigolion hoywon hi,
Siglasant nes ei gloesi:
Attegais nerthais iawn oedh,
Wych lafnau ei cholofnoedh.
4Dwedais hynn diwydia son,
(Araith ffel) wrth rai ffolion:
Na ynfydwch (cêdwch gôf,
O bai wyllt-gamp ne wall-gôf:
A ’r an-nuw dwl gat-ffwl gorn,
Hel-gwrs, na dhercha hwyl-gorn,
5Eych corn ryfel-gorn lle ’r êl,
Owchus nedwch yn vchel:
Geiriau gwar-syth (nwyf-nyth nôd)
Na dhoedwch (yn dhiadnod.)
6Ni dhâw o’r gain dhwyrain-dir,
Vn gorchafiaeth hy-faeth hîr:
Nag o’r deau dôniau datth,
Nallin gorllewin llyw-iaith.
7O herwydh Duw gwiw-dhuw gû,
Bûr-nerth y sydh yn barnu:
Ef a ostwng nwy‐fwug naill,
Orig e gyfyd eraill.
8Yn llaw fy Nêr dyner dâd,
Mae phiol reiol rywiad:
A ’r gwin yn gôch (lle’r ochir)
Yn llawn cymmyse hyfysc hir:
Ag ef tywalltodh i gyd,
Oll yr hwnn‐win lle rhennyd:
Holl annuwion blinion blant,
Yn wisci hwnn a wascant:
Ag a yfant dra-chwant draw,
Ei waelodion oi lidiaw.
9Byth‐fôlaf, canaf, (im côb,)
Dhwys wiw-gair i Dhuw Siagob.
10Torraf holl gyrn mep-cyrn maith,
An-nuwiolion anial-waith:
A chyrn tirion eurion ir,
Or-chyfiawn a dherchefir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.