Psalmau 63 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y LXIII. Psalm. Byrr a thodhaid.

1Duw fy ion kysson y keisiaf mwynaidh

Am henaid chwenychaf:

A sych dwrn mae syched arnaf

O dir krin-gras wnias anaf

Am dy dhyfroedh Duw netoedh naf

Ar dy seintwar gw[â]r a garaf

O ryw dra-chwant ir edrychaf:

2O wyrth golud a nerth gwelaf

Dy ogoniant teg wiw en waf.

3Dy drugaredh rhyfedh rhifaf

Dav gwell yw na bowyd a gaf.

Am gwefus felus mi ath folaf

4O fyw ’n de gach mi ath fendigaf.

Dwylaw mau wylaw ymaelaf

Duw ne kadarn yn d’enw kodaf.

5Duw a braster gwêr a garaf

Duw a lluniaeth, f’enaid llanwaf.

A llawenydh genau llownaf

O fael kynnil i fawl kanaf.

6Ar y gwely hir y galwaf

Am Dhuw eilwaithy medhyliaf:

Yno ag eilwaith pann i gwiliaf

Dyma fowredh Duw, myfyriaf.

7Duw buost fymhorth kymorth cal

Dan dy adain kain y kanaf.

8Ar d’ol fenaid gloewnaid glynaf

Deil fi draw deheblaw haslaf.

9Aed ae ruthr hyd daear eithal

A gais f’enaid kannaid kanaf:

10A bwrir oll pawb a wiriaf

I gleifiav bleidhiau bobl Adhaf.

11A llawenydh brenhin lluniaf

A gwir iechyd y goruchaf.

Ae molianno a mawl hoe wnaf

Dyn rhwydh i gelwydh gwelaf a sorriant

Ni chaif fiarad medhaf

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help