1Traethaf fyfyrdawd tratheg
Am kalon yn dirion deg:
A ganwyf oll am genau
Fydh angerdh brenhingerdh brau.
Kyflymach ag anach gwawd
Yn hyfedr yw fynhafawd:
Na phinn a llaw kanllaw kor
Parawd scrifennydh puror.
2Tegach disymlach da son
Wyt hynod na flant dynion
Mae gras ag vrdhas yn gwau
O dwf is dy wefusau.
Duw ath fendigodh heb dawl
Dro gwedhus yn drag wydhawl.
3Gwisg ith fordhwyd gloewlwyd gledh,
Wyd orvchaf drwy wychedh.
A hynn a fydh kerydh kant
Yn deg iawn dy ogoniant.
4Rwydhynt rhagod hynod hedh
Yn rhad ath holl anrhydedh.
Marchawg ydwyd ior mowrchwyrn
Ar y gair gwir kenir kyrn.
Ag vfudhdawd parawd per
O fendith, a chyfiownder.
5Torfoedh y bobloedh or byd
Tanad gostyngant enhyd.
6Duw vchel dy wehelyth
Dy drwn fry a very byth.
Dy deyrnwialen splennydh,
Dyner kyfiownder a fydh.
7Kowraint kyfiownder keryt
Enwiredh suredh kas yt.
Duw ath irodh llowrodh llon
Ag olew llawen galon.
Yn frenin gwerin gariad
Digydymaith rhwydhwaith rhad.
8Mae arogl myrr miragl mau
Ar dy dhillad aur dhulliau.
Gwynt aloes gennyt eilwaith
A sawr Cassia gwcha gwaith.
Oth balis gwefr ath blas gynt
Yn wych lle ith lawenychynt.
9Merched brenhinoedh gwedi
Gidath wragedh ryfedh ri.
Ith dhehevlaw hylaw hir
Faith aur affaith or Ophir
Y frenhines gynnesaur
A gysgai oll mewn gwisg aur
10Gwrando ferch dhiweirferch dha
Is dwyrain degle ystyria.
Gollwng fal pe bai gwilliad
Dros gof lwyth dylwyth dy dad.
11Didhan fydh dy wedh neu fin
Eurber anadl ir brenhin.
12Merched Tirus gwedhus gwych
Ar rhai gorau rhagorwych.
Gostyngant dygant digwydh
Ger dy fronn anrhegion rhwydh.
13I dillad brodiad ae brig
Dodwyd o aur brodiedig.
14Yno i’th dhygir gwelir gwin
Ger i fronn goran frenhin
Mewn dillad rhuw wisgad rhwydh
Weithian yd o waith nodwyd.
15Ag ar dy ol dedhfol don
Freiniol dy lawforynion.
16Yn lle dy dad llwyda dyn
Abl o vntal kai blentyn
Hwnnw a fydh ior rhydh yrhawg
Vn dewisawl yn dwysawg.
Yn oruchaf gwchaf gwar
A dhewis yr holl dhaear.
17Gwnaf d’enw gwynfyd vnia wn
Yn dragwydhawl dhedhfawl dhawn.
A diolch byth heb dewi
Bu abl y tal y bobl yti.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.