Psalmau 52 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y LII Psalm. Vnodl vnion.

1Dyn o nerth du serth gida Sawl y bustl

Ae bostio dy dhrwg hawl?

Trig twiwdhuw tragwydhawl

I rad ae gariad a gwawl.

2Dy dafod aelod pair wylaw o drais

A phob drwg dhyfeistaw:

Ellyn llym a eillia ’n llaw

O deuellwch i dwyllaw.

3Gwell hefyd gennyd dhrigioni dalu,

Na dilin daeoni.

A chelwydh ith swydh ath si

Mwy na gwir mwyn a geri.

4Keri ’n frau eiriau orig dhyn estron

A dhinystria ’n ffyrnig:

Tafod dibwyll o dwyll dig

Ag anonest gwen wynig.

5Duw hawl tragwydhawl i gyd yn astrus

A dhinystria hefyd:

Duw ath dynn er hynn o hyd

Ior byw o dir y bowyd.

6Y kyfion mwynion mewn maenor eilwaith

A gaiff weled rhagor:

Fo ofna ’n faith berffaith bor

Ag etto ef ae gwatwor.

7Yw nerth ni chymerth ni chais dhuw nefol

Dhyn ofer drwg i lais:

Mae i obaith trwy affaith trais

Ef yw olud ae falais.

8Irbren olifwen oleufedh yn hawdh iawn

Yn huy dhuw mae ’ngorsedh:

Ymdhiriedaf gwchaf gwedh

Yw gariad ae drugaredh.

9Moliannaf trwsiaf yt traserch weithion

A wnaethost o wirserch:

Ith enw o berffaith annerch

Da yw ith saint doetha serch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help