1Arglwydh fy maeth,
F’iechyd wriaeth,
Gwaedhais o’th flaen,
(Oer-gri îr-graen)
Wyf dhŷdh a nôs,
Yn ym-annos.
2Doed fyng-wêdhi,
Ger dyfronn di:
Gostwng dy glûsf
I’m llêf-ymffust.
3F’enaid a gwyd
A ry-lawn wyd:
A’m heinioes aeth,
I’r bêdh alaeth.
4Cyfrifwyd fi,
Gida rhcini,
A dhescynnent
I’r gor-dhyfent:
Oedhwn fel gwr
Heb nerth-gyflwr.
5Yn rhŷdh ym-mysc
Meirw hîr-gysc,
Fel rhai wedi,
Ei harcholli.
A fae ’n gorwedh,
Mewn grayan-fedh:
Dymon di-nwy,
Ni chofiaist mwy,
Torrwyd hwynt drâw
Dhiwrth dy wiw-lâw.
6Rhoist fi (Dduw Nâf)
Ir pwll issaf,
Yng-rô tew-lwch,
Mewn tywyllwch:
(Gor-llawn prudhder)
Yn y dyfnder.
7Arnaf oer-nŷch,
(Dawdh-rym di-dhrych)
Y pwysa faint,
Dy dhigofaint:
A’th holl donnau,
(Dwys brofiadau)
I’m cystudhiaist,
(A’m gwarr‐grymmaist.)
8Fyng-hydnabod,
(Ar bôb cyfnod)
Pell-heist ’dhiwrthi,
I’m trueni)
Gwnait fi idhyn,
Yn ffieidh‐dhyn:
Gwarchâed fi ’n gaeth,
(Ackw sywaeth)
Fel na chawn fann
I fyn’d allan.
9Fyng-olwg fôdh,
A ofidiodh,
Gann fyng-hystudh,
(Boen-fa bevnydh:)
Llefais arnad,
Arglwydh hael-dâd:
’Stynnais it draw
F’egwann dhwylaw.
10Ai ir meirw
(Llwch a lludw)
Y gwnei (gampau,)
Rhyfedhodau?
A gyfyd (Ion)
Y rhai meirwon:
I’th foliannu,
Arglwydh gwiw-gu?
11A draeth cnwd-bêdh
Dy drugaredh?
A’th wîr hy-fyw,
Yn lle distryw?
12A ’dweinir clòd
Dy ryfedhod:
Mewn tywyllwch,
Du-oer dristwch?
A’th Gyfiawnder
Wir-nâf eur-nêr
(Gann rai ’n trigo)
Yn-nhir ang-ho?
13Arnat llefais,
Dduw drô dhi-drais:
Yn foreu dâw,
Ng-wedhi hy-law,
O’th flaen, i’th wydh;
(Eur-gôld Arglwydh.)
14Pam Arglwydh Rhî,
Y gwrthôdi,
Fy enaid gwâr
(Yn hîr-âlar?)
Y cûdhi’ gŷd
Dy wyneb‐pryd,
Rhagof, lle ’r wyf
Yn dwyn mowr-glwyf?)
15Wyf druan gaeth,
Ar drang-digaeth,
O’m ifieinctyd,
(Eg-wann febyd:)
Dygais dy ofn
(Duw saif dwys-ofn)
Ag wyf etto,
Yn pettruso.
16Dy sorriant aeth,
Trosof treif‐saeth:
Dy arswyd maith
Torrodh fi-’maith
17Fel dwfr dyfn‐nant
I’m cylchâsant:
Be vnydh i’r rhwyd
I’m cyd-gylchwyd.
18Pellheist bôb câr,
A chyfell-gâr,
Odhi vrth fyng-hlwy,
lle’r wy’n tramwy:
Fyng-hydnabod
(Mor dhi-dharbod)
Ydynt rhâgo
Yn ym-gudhio.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.