1Molwch adholwch Dhuw ion
Mawl wiw-serch aml i weision:
2Y rhai a saif orau swydh
Nêr wirglod yn hûy ’r arglwydh.
Ynghyntedhoedh teioedh têg
Difai yn Duw ae ofeg:
3Molwch t’arglwydh bur-swydh hwyll
Da ydyw ’r arglwydh didwyll.
Accw yw enw Duw y cânwn
Cans hyfryd yw hedhyw hwnn:
4Cans duw ’n ôl a dhetholodh
Dêg o rwysg dûy Iaco rôdh.
Ag Israel yn deg oes-rydh
Yn bobl idho fo a fydh:
5Cans gwnn mi ae gwelwn im gwydh
Mor eurglod, mawr yw ’r arglwydh.
A bôd f’arglwydh o gwydhyn
Vwchlaw delwau a duwian dyn.
6Yr arglwydh gwnn arwydh gwnai
Yn fanwl hynn a fynnai:
I’r dhaear sef ar nêf nêr
Ddyfn-daith i’r mor ae dhyfnder.
7Mêllt glâw, mwg, fo ai dwg hyd ar
Duedh eithafion daear:
E dhwg ar hynt wynt i wau
Drwy sorriant oe drysorau.
8Trawodh yn Aipht treidhio naf
Gynt sawl a aned gyntaf:
Yr holl thynion bloesgion blaid
Yn y fâl ae nifeiltaid.
9Rhyfedh arw‐wêdh arwydhion
I ’r Aipht danfonodh yr ion:
Oer a pherigl i’r Phâlo
Llas nerth ei holl weision o
10Hwnn oedh yn taraw llawer
Or cenhedloedh, hwnn oedh nêr.
Lladhodh a fynnodh fy ion
Croew-feilch frenhinoedh cryfion:
11Sehon bôr yr Ammoriaid
Ag Og ner Basan a gaid,
Holl deyrnasoedh gyhoedh gan
Lle y cynnal llû Canau.
12I fir a roes freiwr aeth
A fydh yn etifedhiaeth:
Etifedhiaeth helaeth hael
O lwys-rann yw bobl Israel.
13Dy enw ô ner a be[r]y
Yn dragwydhawl freiniawl fry:
Dy gôf ner gyfiownder fydh
Yw gael or oes bigylydh.
14Yn ner a farna araith
I bobl oll bu abl i waith:
Dwysder aeth mae ’n dostur iou
Wrth dheisyf wrth i weifion.
15Yr holl dhelwau gau a gaid
O’r arian a’r gorearaid:
Ag a wnaethai os ai sôn
Gildynnus, gwaela dynion.
16I genau yn gau a gant
O fowr-air ni letarant:
Ae llygaid sydh dydh ae dwg
Ni welant vn o olwg,
17Mae clusiau yn gau vwch gwên
Ni chlywant yn iach lawe:
Ni chwyth i gwynt chwith i gau
Nag anadl yn i genau.
18A phob dyn o honyn hynt
Di-dhuw a ’mdhiriaid vdhynt:
Sawl ae gwnel i gornel gau
A’n hwy weithian fal nhwythau.
19Tuy Israel wâr tùy Aron
Bendithiwch ner syber son.
20Tuy Leui os henwi swydh
Fowrglod bendithiwch Parglwydh:
A ofno ’n ner twyn iawn iaith
Ae bendithia benn doeth-iaith.
21Be[n]dithier yn ner a’n ion
Gras yw i gaerau Seion:
Hwnn a drig heb hun yw drem
Ar sail dref Gaerusalem.
Môlwch a fêfwch i’ch swydh
Dha or-eurglod Dhuw ’r arglwydh.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.