Psalmau 9 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y Psalm. IX. Gwawdodyn Byrr.

1Molaf yn dhyfal Dduw a’m calon,

A thraethaf ei hynod ryfedhodion.

2Llonychaf o’m Naf i’m nwyfion, — canaf

I’w enw goruchaf, enwaf yn union.

3Ciliodh, goel anodh, y gelynion,

Gorau wyd o fraint, odhiger dy fron;

4Can’s bernaist, torraist fy materion — rhus,

O eiste’ fry ’n gofus dy farn gyfion.

5Cospaist, ti a dhiwynaist anghred dhynion,

Collaist, ni welaist annuwiolion;

Dileaist, bwriaist fal na bon’, — na’u mawl,

O henw tragwydhawl, hawl wehilion.

6A gorwedh mewn llwch, gwelwch galon,

Byth y dinystriwyd bath dyn estron;

A’u trefydh, caerydh coron, — a’u kofiaw,

Hynny aed heibiaw, hen attebion.

7Yw drwn dhiogel mae ’n uchelion,

O bur iawn wiwserch barnai’i weision;

8Barnair byd hefyd, Duw cyfion, — barnai,

Bu abl a fynnai ir bobl fwynion.

9Parch ydwyd gwelwyd i bob trist galon,

Hybarch a hynod mewn trallodion;

Mewn amser tyner wyt, Iôn, — yw codi

Allan o’u c’ledi, gerwi geirwon.

10Ymdhiriaid enaid wyt i weinion,

Pawb a ŵyr d’enw — pawb o ’r dynion;

Can’s ti, Arglwydh, rwydh rodhion, — ni wrthyd

A’th geisio, ennyd hyfryd hoywfron.

11Moliennwch, cenwch fwyn accenion,

Y Beibl oedh siwel bobloedh Seion;

Traethwch, danghoswch yn gyson — ir byd

A weithiodh e i gyd, gweryd gwirion.

12Coffa, bid croywlid, am waed creulon,

A dïal orig y diwael ŵyrion;

I’w gof nid anghof, iawn dôn — yw ’r gweidhi,

Y llefain, y cri, y sï, a ’r son.

13Dyro, Dduw, fawredh dragaredhion,

Duw, wyt y Ceidwad, dihoccedion;

Edrych lle gwelych y gwaelion — dhynos,

Yt o gas agos digasogion.

14Yno dy foliant yn d’afaelion,

Diwyd iawn seiens d’weda ’n Seion;

Llawenydh im’ fydh mau fodhion — helaeth,

O’th iechydwriaeth uwch y dewrion.

15Cenhedloedh oesoedh a sodhason’

I ’r ffos o anras a glodhiason’;

I ’r rhwyd eu daliwyd lle delon’ — bob coes

Yn y gwŷdh eisoes a gudhiason’.

16Barn Duw, O kofiwch, bur nod cyfion,

Bwrw gwyr anghysbell yw dichellion;

17Cledhir, fe fwrir hwy ’n feirwon — ir bedh;

Am Dduw lwyswedh ni’s medhyliason’.

18Ond diwael ydyw hynt tylodion, —

Duw yn eu kofiaw, Dewin cyfion;

Trueiniaid, gweiniaid gwỳnion, — a’u gobaith,

Ni dhiffydh eilwaith i ffydholion.

19Cyfod, Duw, cyffro, deffro da dôn,

Na’d wyr digrefydh yn daer gryfion;

Cenhedloedh ar goedh, gwydhon, — a farner

Yn d’ŵydh, y Mawrner llawenber llon.

20Par d’ofni, Geli, i wyr gwaelion,

Dychrynant, crynant y rhai crinion;

Gwybydhant, gwelant gwaelion, — nad ydynt,

Ammau yw ’r helynt, ond marwolion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help