1Penn gwnfyd ir byd wybodau modh yw
Madheuant pechodau:
Ar sawl y kudhiwyd ras ynn
Baich adyn i bechodau.
2A gwnfyd enhyd o vnion ryfig
Ni rifo Duw tirion:
I anwiredh trowsedh trwch
Gwelwch heb dwyll yw galon.
3Pann dewais fy ais a fydh yn darfod,
Mewn dirfawr loes bevnydh:
Pann dhwedais poen oedh dhideg
O Duw deg ar hyd y dydh.
4Trwm yw draw dy law diwael ion naws dig,
Nos a dydh im dwyfron;
Troist f’ireidhrwydh purlwydh per
I grinder haf gowreindon.
5Kyffesais d’wedais wir dudwedh ochain,
Fymhechod am kamwedh:
Ni chudhiais ri wych dhwys raith
O fewn araith f’enwiredh.
Fymhechod dhefod adhefais trwy gân,
Drigioni ni cheraist
Kerydh pechod fawrglod fael
Ym oedh dhiwael madhevaist.
6Fyngwedhi mowrgri a mwy dha awen,
Bid yn dhuwiol fwyfwy:
Ofewn amser mwynder maeth
Mawr odiaeth kymeradwy.
Mewn ffrydoedh dyfroedh mae yn dostedh sickr
Dydh swckr ef nid aros:
Ni chaiff dhyfod gyfnod gan
Dhyn egwan idho ’n agos.
7Wyd fynirgel ffel heb ffi trwy allu,
Mewn trallod im kedwi:
A llawenydh rydh rodhiad
Kamp wiw sad om Kwmpas i:
8Lle ’r elych dasgwych dysgaf etto ffwrdh,
Yt y ffordh danghosaf:
Ag am llygad dhifrad dhawn
Iaith rylawn mi ath reolaf.
9Fal mul neu gefful mewn gwall anfodhus
Na iydhwch yn angall:
Yn y rhain pann fon yn rhydh
Dost awydh nid oes devall
Ffrwynau yw genau a gad a gwenfa,
Gidag anfodh glymiad:
Rag idyfod drygnod dro
Etto yn agos attad.
10Duw hefyd tristyd trosto ir enwir,
Duw rinwedh ni choelio:
A gras oe gwmpas a gair
O radair a[’i] ’mdhiriedo.
11Hydhfryd llawenfyd yn llonn a bodhawl
Bydhwch y nuw tir[i]on:
Pawb ar y fydh ae rydh raith
A glain goelwaith glan galon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.