1Gwir vnduw fyth gwrando fi
Gwaedhais arnad am gwedhi:
Nag ymgudh yn brudh ber rodhi ymannos
Damvnaf Duw geli.
2A gwrando bu waetio ’n ber
A wnai arnaf ion eurner:
Duw mwynaf kwynaf kaner tyst eiriau
Mewn tostvri skeler.
3Gelynion hyn a soniynt
Gorthrechwyr ym anwyr ynt:
Anwiredh rhyfedh yw ’r hynt a digiaw
Degoes im gorthre chynt.
4Fynghalon kyfion yw ’r kof
Gronn an wyl a grynn ynof:
Ofn y kau angau yngof o serthwch
Oll à syrthiodh drosof.
5Doeth ymi oeri oroen
Dechrynnu krynnu i’m kroen:
Arswyd a benn wyd o boen im kudhio
Am kodhed yw fy hoen.
6Dwedais pwy rydh rywdhydh rên
Koel ymy esgyll klomen?
I hedeg gwaneg a gwên lawn adhysg
I lonydhwch llawen.
7Yno rhedwn gwnn ar goedh
Diball bid i bell bydoedh:
Yno gwnn tariwn mewn tiroedh diffaith
A diffwys mynydhoedh.
8Diengwn rhedwn yrhawg
Yn fuan ag yn fowiawg:
Rhag oerhynt y gwynt arw gwntawg hoenus
A hinon dymystlawg.
9Llwngk hwy arglwydh breisgrwydh brau
Hollda fudr hyll dasodau:
Ymryson kreulon kwerylau galar
Gwelais yw dinasau.
10Gwiliaw a rhodiaw rhadair
Beunydh y kaerydh eu kair:
I ganol y dref drwg anair yn awr
Ag e nwiredh disglair.
11Pob diffeithwch serthwch son
Oer araith sy yndhi ’r owron:
Bydh ar heolydh i honn yn astrus
Ystriw a dichellion.
12Gelyn dibwyll pe im twyllai,
Hanner‐kwyn yn fwyn a fai:
Gwnn draw ymgudhiaw gwedhai a gâlon
Rag gelyn am ceisiai.
13Onid ym wr hynod maith
Kyd amod am kydymaith:
Fyng hynghorwr gwr ag araith gowraint
A garwn i yn berttaith.
14A melys hwylys helpnr
Ragor o gydgyngor gynt.
Yn gyfeillion llonn llawen‐hynt hawdh iawn
Yn huy dhuw a rwydhynt.
15Angau ymylau milain
A gladh ynyw rhyw y rhain:
Ag amled gweled oer gelain ir dref
Arwa draig dholelain.
16Minnau alwaf manylwaith
Ar fyng-wirdhuw mowr-dhuw maith:
Yr arglw ydh hylwydh a haelwaith kiwdawd
Ef am keidw yn berffaith.
17Kanol dydh kelfy[d]h koelfain
Boreu-dhydh kyd-echwydh kain:
Gwedhiaf soniaf fy sain a wrendy
Wir vnduw fy llefain.
18F’annwyl a brynawdh f’enaid
Mewn tangnefedh ryfedh raid:
Rhag rhyfel gwyr del deiliaid a mawrboen
Im erbyn gorthrech‐plaid.
19Oth gadair downair dinam
Gwrandewi kospi kam:
I buchedh hoenwedh baham? y neillawr
Na wellant rhag dryglam?
20Duw nid ofnant nwyflant nod
Trwy ymwan torri amod:
Gorthrechu sennu lais hynod affaith
Sawl ae hoffai ’n ormod.
21Mwynach llyfu fal ymenyn
Yw geirian i enau ynn:
Ond rhyfel lle dêl sy n dilyn gwael-was
Yw galon yskymyn.
22I barablau geiriau gwych
A modh olew medhalwych
Yw fedhwl wr dwl deliych cul ofal
Mae llwyfaw yn fynych.
23Difai ar dhuw rhoi d’ofal
Kai rwydhdeb diweirdeb dal:
Am nas godhef ef hir ofal kofiaw
I wr kyfion dyfal.
Gwyr krevlon eirchion erchyll
Dydi Duw bwri ’nhwy i byll:
Byr‐oesawg twyllawg o fewn tyll ydynt
Atad dof i sefyll.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.