Psalmau 60 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y LX Psalm. Trybedh menaich ofer-fesur.

1Dvw yn gwarth ydoedh di an gwrthodaist

Di an gwasgeraist dan gas girad:

Duw ior a digiaist dyro degwch

Daw ymy hedhwch nid om haedhiad.

2Dioer o hyllter daer a holltaist

Daear a grynnaist oriog ranniad.

Y mae yn egwan yma yn agor

Ackw a rhagor kae i rhwygiad.

3Dan gosaist ffrwynaist ith wyr heb ffrwyth

I gael oed o bwyth galedi heb wad.

Rodhaist wîn in mîn aug-hymennair

Y bendro a bair band oer y bwriad.

4Rhoist faner dyner honn a danant

Y sawl ath ofnant gwiriant gariad.

A hynny ger bronn dy wirionedh

I godi arwydh-wedh gyd‐arwedhiad

5I bawb o hyder ar ath gerynt

Gwnn o iraidh hynt y gwnai rydh-had

Achubydh vndydh wyd im gwrandaw

Ag ath dheheulaw gwaith dheholiad

6Ym bydh llawn awydh a llonn awel

Yw seintwar dawel sant ior diwad.

Im pobloedh rhintoedh mi ae rhannaf

Sichem a fynnaf rwydhaf rodhiad

Suckoth dyffryn pur a fesuraf

7Ymy y gwelaf yma Gilead.

Mânasses wiw-ffres; wedi Effrym

Hwnnw yw y grym a heuw gwiw ra[d].

Iuda dewisa ef yn

Legislator.

dwylawg:

8A Moab yw ’nghawg enwawg ynad.

Ag ar gefn Edom drom ar drumiau

Bwriaf f’esgidian byrr-fwys godiad.

A Phalestina yna vnnos

Yn llonn o achos llawenychiad.

9Pa wys am towys ymysg teyrn

I gaerau kedyrn gorau keidwad?

A phwy i Edom yn dhiom wedh

Am dwg i vnwedh mevdwy ganiad?

10In digio yleni Duw in diglonnaist

I ffo in heliaist an ffynn hwyliad.

Heb dwyso yno yn dhianair

An-llawen y kair ein llû a ’n kâd

11Rhag blinfyd y byd bid Duw yn borth

A daw in kymorth dewin keimiad.

Ofernerth a serth ydyw pob son

A allo dynion lleia doniad.

12Rhown hyder tyner arnad vnion

O wyrth diwid ion o nerth Duw dad.

Y gelyn isod gwael yn wasarn

Syth a yrri ’n sarn a sethri ’n sad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help