1Fy-mhobl rîf am nifer,
Gwrando ’nghyfrath berffaith bêr:
At eiriau ’ng-enau yngan,
Gostyngwch glust lown-dyst lân.
2Agorai (dhi-wâg araith)
Fyng-enau mwyn fynag maith:
Mewn dihareb gudeb gair,
Hên-son damegion mâg‐air:
3’Rhai a glowsom dhi-som dhŷsc,
Ag a wydhom aeg adhysc:
A fynêgodh (ai rhôdhi)
Eyn tadau enau i ni.
4Rhag ei meibion gwirion-fodh,
Ni chelwn fŷth, wych-lan fôdh:
Eithr coedhwn (arnthroedh)
I ’r oes nesaf (iownaf oedh)
Foliant yr Arglwydh llwydh-wych,
Ai rymmus nerth wiw-nerth wych:
Ai ryfedhau diau dâ,
A wnaeth ef (fwyniaith hy-dhâ.)
5Côdodh destiolaeth faeth-ryw,
Yn Iacob oreu-gôb ryw:
A gosododh (hoy-wfodh hardh)
Gyfraith yn Israel gu-fardh:
Rhai a orchmynodh (nodhed)
Ef i’n tâdau (gofiau g[ê]d,
6Ei dyscu (deu-lu di-wael)
Iw plant ai hâd magiad mael.
Fel gwybydhe ’r oese ar òl,
Plant ag cppil, hil hadol.
7Roi goglyd ar dhuw gu-glwys
Drwy gofio ei air, myfrair mwys:
8Ag na bydhyn gyndyn gau,
Folt hudedh fel ei tadau:
Oedh an-ffydhlon galon gynt,
I ’r cywir-dhuw lle cerdhynt.
9Meibion Ephraim hyf-glaim hir,
Ackw’n arfog cynhyrfir
A bwa ffraeth yn saethu,
Troesant o’r gâd frwydrad fry.
10Cyfammod Duw cof ymwan,
Ai gyfraith loyw‐afiaith lân:
Ni chadwent (gwyrent ar gil)
Anckus, gwrth-droent ar enckil.
11I waith ryfedh waith rif óv,
Angall-anghofient yngod.
12Gwnaeth iw tadau wyrthiau wîr,
A reiphtiodh yn yr Atpht‐dir;
Ym-maes Zoan hoyw-lân hardh,
Dinam wrthiau di-anhardh.
13Gwnaeth ir mor ym-agoryd,
Dûg hwynt drwodh hwyliodh hyd:
Ym-wahanai safai ’n siwr,
Bu o vn-tu yn ben-twr.
14Hwynt mewn cwmwl a niwlen,
Twysai y dŷdh, rydh ller ên:
Wrth olau tan ymmannos,
Cyfrwydhai nodai liw nos.
15Creigiau scwariau yn scyrion,
Diodai wynt diwyd Iôn;
Dug lifeiriant hoff‐antur,
O’r graig gallestr sowr‐lestr fûr:
16Prif‐dhyfroedh a ffrydoedh ffres,
Mynnodh idhynt oi monwes.
17Bai vcho, mwy a bechent,
Duw’n dhig o nwyf‐ryfig wnênt.
18Temptiâsant dhuw wiw-dhuw Iôn,
(Cêlent) yng-wraidh ei calon:
Gann ofyn bwyd (blin-fwyd blys)
Hollawl yn-ol ei hwllys.
19Yn erbyn Duw, syth‐fyw sant,
A gwg-loes y gwâg-leisiant;
Doedent o egni dadwrdh,
A dhichon Duw byw roi bwrdh?
Yn y dyfal anial-dir,
Lle diffaith di-ymdhaith dîr?
20T rawodh y graig (dur-graig
Turris
dwr)
Pistyllodh ffrydiodh ffrwd‐dhwr:
A dhichon ef roi hefyd
Fara? — (a dharpara ŷd?)
A rydh ef gîg (di-dhig daith)
Iw bobl? o bai abl-iaith.
21Hynn clywodh a digiodh duw,
Oll a thân-fodh eithin-fyw,
Ennynodh fflamiodh yn fflwch,
Yn Iacob ôb‐ôb ebwch:
A digofaint Duw gôf-îr
A gynneuodh hêdodh hir:
Yn Israel (rhy-wael yrhawg
Ogan adlais genhedlawg.)
22Chwerw odiaeth am na chredynt,
Yn y gwir-dhuw hoyw-fyw hynt:
Ag na baent chwaith obaithiawl,
Yn ei iechyd hyfryd hawl.
23Er hynn gorchmynnodh i’r rhôd,
Wybren owch‐wen odhuchod:
Agorai yn hy-gywraint,
Dhrysau nefoedh freinioedh fraint
24Mynnodh idhynt gael Manna,
Melys-fwyd dewis-fwyd dâ:
Lluniaeth cowsant ei lloned,
O’r nefoedh lifoedh ar lêd.
25Dyn cai fwyta bara bwyd,
Yngo eilfodh angyl-fwyd.
26Dwyrein-wynt, deheu-wynt hêdh,
Gaerau nefoedh a gyrredh.
27Adar hy-bell ascellawg,
Cig‐gafod rhîf ôd yrhawg.
28Yn ei gwersyll bebylloedh,
Cwympai tewrif ’neirif oedh.
29Bwytasant (blîn-chwant o blâ,)
Gwélent gael bwyd ci gwâla.
Duw parodh yn rhwydh-fodh rhâd
30Di-omedh ei dymvniad
Er hynn (llwyr gwae nhwy oi rhaib,
Lle bu leis-rwydh llu blys-raib)
Tra oedh y bwyd blys-fwyd blau,
Naws ofnad yn ei safnau:
31Duw digiodh llidiodh ar llêd,
Iw herbyn heb ei harbed:
Lladhodh drâs y rhai brâsaf,
O honynt nefol‐hynt nâf:
Gostyngodh Duw hoyw-fodh hael,
Y dewis-rann Duy Israel.
32Er hynn pechasant bôb rhîth,
Garrwedh bobl ogyrrith:
Ag ni chredasant antur,
Iw ryfedhau pwyntiau pur.
33O hynn y treuliodh e hoes,
Oll ai dydhiau diwedh-oes:
Mewn oferedh rhyssedh rhynn,
Mewn du-achreth, a dychrynn.
34Pann ladhai hwynt (poen ludh hîr,)
Duw ceisient ackw oes‐hîr:
Yno y troen di-boen daith,
Yn forau at dhuw fowr-waith:
35Cofient mai Duw, fowr-dhuw farn,
Oedh eu cêd ai nawdh cadarn:
A’r Goruchaf bennaf bûdh,
Gwiw-râd oedh ei gwaredudh.
36Er idhynt frith rag-rithio,
Adhefawd faith idho fo,
A ffwnn o gelwydh a ffûg
Mwyn-ffals a thafod mîn-ffûg,
37Ai calon dhi-inion i dhuw,
Heb ffydh iw grefydh groew-fyw:
38Er hynny ef o nêf nêr,
Yn drugarog rywiog‐ber,
A fadheuodh hoyw-fodh hêdh,
(Hoen aravl) ei henwiredh,
Ni dhifethodh mew[n] codhiant,
Rhain oedh nwyfus fwythus fant:
Trodh ymaith (Duw gwiw-faith gwych,)
Fwynaidh ei dhig yn fynych,
Ag ni chyffrôdh, anfodh lîd,
Yn hyllaf lwyr ei hôll lîd.
39Cofiodh mai cnawd gwael-gnawd gau,
Oedhen wedi heb dha-’nwydau,
A gwynt yn myned ar gil,
Vncwrs, heb droi o’r encil.
40Pa sawl gwaith oi dryg‐waith drwch,
Hwnt yn ardal anialwch,
Y digient gofidient gyd,
Dwys-braff wiw-dhuw da ysbryd?
41Can’s troesant ffieidh-blant ffôl,
Gwarthus ollawl iw gwrth-ôl,
Profasant Dhuw prîf‐oesawg,
Temptiasant Israel‐Sant rhawg.
42Ni chofient serch eu perchen,
Ai nerth rymvsnerth o nenn,
Na’r môdh gwaredodh o gêd,
Hwynt rhag gwyn gelyn galed.
43Rhoes yn thwydh ei arwydhion,
Yn yr Aipht, hy-lown-raipht Ionn:
Ai ryfedhau gwyrthiau gwir,
Ym-maes Zoan gyf-ran-dir.
44Troes ei dyfroedh ffrydoedh ffres,
Yn waed rhudh-waed lle rhodhes:
Fal na allent yw tenti,
Gael diod dhwr groyw-dhwr grî.
45Rhoes gymyse-bla sanga sôn,
Yn eu plith geu-rith geirwon,
A difethodh dwf weithian,
Hwynt a llyffaint ruthraint rann.
46Rhoes ei enwd, daear-gnwd dêw,
I’r Locustiaid lû cwest‐dew:
Ai llafur fowr-gur a fynn,
I’r celiog rhodiog rhedyn.
47Sycomor-wydh gwin-wydh gai,
Cenllyse
Cesair ackw a ysai.
48I’r crâ[s]‐genllysc neid-fysc naid,
Rhoe filoedh oi ’nifeiliaid:
Ag i’r mellt lle tywelltir,
Rhoes ei cyfoeth hy-goeth hîr.
49Anfonawdh oer-gawdh ergid
Arnynt w[e]dh lownedh ei lîd,
Digter, îng, gûl-ing gilwg,
Draw ag angylion drwg.
50Gwnaeth ffordh iw dhigofaint ffêst,
A lwydhodh yn dhi-ludh-est,
Ni attaliodh ei teu-lu,
Ing dasg odhiwrth angau du:
Rhoes ei bywyd llawn
Pechod.
gwŷd gau,
An-nedwydh i’r haint nodau.
51Pob cynt-anedig trigfa
Fflêd Aipht, hwynt trawodh affla:
Ei holl flaen-ffrwyth lown-ffrwyth lu,
Yn Ham hyll yn pebyllu.
52Ei bobl ei hun (Gùn) a gaid,
Arweiniai (dhifai dhefaid:)
Fel praidh hy-wedhaidh boyw-dhysc,
Trwy’r anialwch garrwch gwrysc.
53Twysodh diogelodh daith,
Fel nad ofnent vn dyfn-waith:
Y garw-for dygyfor dawdh
Ry‐chwydh‐wyllt a or-chudhiawdh.
Ei gelynion af-lonydh,
Rhy‐flinion ffolion ei ffydh.
54Hwynt i oror dwys-gor dûg
I seintwar eur-war orug:
I ’r mynydh hwn gwydhwn gêd,
A’nillodh hoyw-fodh hyfed:
Oll o rym ei lown-rym law,
Dhuw haeledh ei dheheu-law.
55Gyrrodh allan gwydhan goedh,
Ganheid-liw, lu Genhedloedh
Oi blaen hwynt y blinion hâd,
(Llwyr ystig yn llawr wastad)
Ei rhan-diroedh fudhioedh faeth,
Tyfai idhynt ’tifedhiaeth:
Llwythau Israel dra-hael drô,
Darogan gwnaeth i drigo,
Ym-hebyll gwersyll y gwyr,
Oedh (aloniaith) elynwyr.
56Er hyn o wyrthiau a rhâd,
Drwy demptiau brifiau brofiad,
Digiasant dhuw nowdh-fyw nâf,
Geir-chwyrn vn-ben gor-vchaf:
Ni chadwasant (warant wîr)
Ei dystiau gorau geir-wir.
57Cilient a dychmygent dwrn
Ceu-gas gan droi eu cwgwrn,
Buant an-ffydhlon lonaid,
Fal ei tadau gau a gaid:
Troisant fel yn gyffelyb
Bwa twyllus darnus dyb.
58Ai huchel-fau (mannau mall,)
Y digient ef (modh di-gall:)
Llidient a dalient mewn dig,
Cyrf ai delwau cerfiedig.
59Hynn clywodh a digiodh Duw,
Llysodh Israel rhy‐laes‐ryw.
60Pabell Silo s’eidho sail,
Gwrthododh y gwyrth adail,
Yr honn babell hy-well hardh
A osodai Dhuw sad‐hardh
Ymysc ei bobl er maeth,
Gu-air fyd a gorfodaeth.
61Rhodhes ei nerth gyf-nerth gêd,
Gaeth awydh i gaethiwed:
Ai brydferthwch (erthwch ail)
I’r gelyn nwyfyn ’nifail.
62Rhoes i’r clêdh ei bobl fêdh faeth,
Tyfai dhig iw ’tifedhogaeth.
63Tân a yssodh fal godhaith,
Ei gwyr ifainck rwyf-lainck raith:
Ai forwynion hoy won hardh,
Ni phriod wyd nwy ffryd‐hardh.
64Ei ’ffeiriaid grâdh a ladhid
A’r clêdh waed-lifedh o lîd:
Gwragedh gwedhwon (gofion gynf,)
O lysoedh ni wylasynt.
65Deffrôdh yr arglwydh dâ ffres,
Fel vn o gyntun gwin-tes:
Fel Cawr cadarn fleidh-farn floedh,
Yn gwniaw wedi gwinoedh.
66Ei elynnion dynnion dig,
An-nuwiolion an-nelwig,
Rhoes idhynt warth an-’sparthol,
Trawodh hwynt trwodh iw hôl.
67Gwrthododh babell gell-wŷch
Ioseph reiol wêdhol wych:
Ni etholodh gloyw-fôdh glaim,
Lâth o wiw-ffrwd lwyth Ephraim:
68Ond dewisodh hoyw-fodh hael,
Lwyth Iuda gyfa gafael:
Mynydh Sion hoyw-fron hêdh,
Rhwn a hôffai a rhinwedh.
69Fel llys vehel ei wel-lydh
Ei Gyssegr-fa seil-fa sydh:
Fel y dhayar gronn-war grê
Saif odli iw sefyd-le.
70Etholodh o iaith wiw-lân,
Dafydh ei wâs o râs rann
Ef cymerth loyw-nerth o laid,
Difai gorlannau defaid.
71Odhar-ôl, lle bu ’n dolef,
Defaid cyfebron lonn lêf:
I borthi Iacob bobl-fawr,
Israel faeth ’tifedhiaeth fawr.
72Ynte porthodh hoyw-fodh hwyl,
Hwynt lûog enwog anwyl,
Yn-ôl perffeithrwydh lwydhiant,
I galon syw‐mion sant:
Ag ai trinodh drwy nodhed,
Y bobloedh luoedh ard:
Wrth gyfrwydhyd lown-fryd lonn,
Ei dhwylo di-eidhilion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.