1Brysiwch chwi a genwch i gyd iawn wirglod
In arglwydh a’n bywyd:
Ymlawenhawn molwn hyd
Vcho yn nerth a’n iechyd.
2Deuwn da redwn o hir drydar fry
Ger i fronn yn dhiolchgar:
Canwn llefwn yn llafar
Ygyd y psalmau a gar.
3Cans yr arglwydh rwydh o radhau im oes
Sydh Dhuw mawr i minnau:
Brenin nef llawr mawr ior man
A Dewin yr oll Duwiau.
4Dysnder gwardhaear lle dhoedh iawn o les
Yn i law yr ytoedh:
Vchter eidho ’n gweithio ar goedh
Anadhasy mynydhoedh:
5Y mor o ragor lle’r aeth y power
Ef piau i gymyrraeth:
Ae dhwylaw nid oedh alaeth
Y sychdir yn wir a wnaeth.
6Brysiwa adholwn wawr dhydh gwir amod
Ymgrymmwn ni beunydh
Gostyngwn rhodiwn yn rhydh
Yn goweithas in gweithydh.
7Ef yw ’n rhi Duw, ni dann wydh yw ei bobl
Bu abl i borfeydh:
Gwrandewch ner ae leferydh
Defaid i law hylaw hydh.
8’Lle ’mryson calon wyr caeth na chledwch
Dwys gedwch dysgeidiaeth
Fal dydh dig profedigaeth
Ynyr anial cymal caeth
9Lle tentafiwn hwnn hanoedh och tadau
Y beiau hwy biôedh
Profasant gwelsant ar goedh
Iaith rydeg fyngweithredoedh.
10Deugain mlynedh, medh i modhion ae dadl
Y dwedais yn dhigllon
Ymdynnais amod vnion
Iaith hir ar genedlaeth honn
Bryntion i calon yn cau fal oernad
Cyfeiliornus hwythau:
Ni adnabuant plant sy ’n plau
Fu wall ebrwydh fy llwybrau.
11Tyngais am i trais trofid yn ihol
Mynna i hel mewn mowrlid
Ag na dhelent gwnn dhylid
Im gorphwysfa llyna ’r llid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.