1A’m llef ar Nêr gweler gwiliais,
I’m byw, eilwaith, Nêr, ymbiliais.
2Fy myfyrdod chwaen a flaenais,
Diau hallter a dywelltais:
Fy nghystudh breg a fynegais
Ger ei fron (union Nêr) enwais.
3Tristyd i’m hyspryd sydh, a’m hais;
Gwydhost o ’r wybr fy llwybr a’m llais:
Cudhiasant faglau i gau ar gais,
Oedh arw hudo, ffordh y rhodiais.
4I ’r dehau drychau edrychais,
Dinod pawb, neb adwaenais:
Pallodh nodhed im’, ni’s pwyllais;
Heb ofyn f’enaid, diraid drais.
5Arglwydh o nef arnat llefais;
Ti yw ’ngobaith (da daith) d’wedais,
A’m tarian, a’m rhan, mawr henwais,
Yn nhir y bywyd, hwyr beiais.
6Ystyr o nef fy llef a’m llais;
Truan ydwyf, taer y nodais:
Cadw fi rhag gwyr, erlidwyr lais;
Trech na mi trwy ochain i’m hais.
7Dwg f’enaid allan, glan heb glais,
O fawl i’th enw, fal i’th unais:
Yno bydh gwên lawen o lais;
A choron cyfion im’ cefais.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.