Psalmau 85 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y LXXXV Psalm. Proest cyfnewidiog.

1Wyt lawn gras an vrdhas ner

Ith bobloeth dorfoedh aih dir

Dychwelaist mynnaist mwy ior

Iago gaethiwed egyr.

2Madheuaist mwy oedh dhiwyd

Anwiredh dynion irad

A chudhiaist lle gweithiaist g[ê]d

Bu achos iholl bechod.

3Tynnaist ymaith dyfn-waith da

Greulonedh gweryl no

Trwst oth lid y troist ith le

Allownedh o dhiglloni

4Tro ni Dhuw wyt orau nêr

At yn iechyd gwnfyd gwr

Torr odhiwrthym hoewrym hir

Dy dhigofaint ohygyfor

5Ae byth trwm o beth y traidh

Digi wrthym ni? rhown waedh

A estynni sorri swydh

Y sy isel oes‐oesoedh.

6Etto oni throi ni attat

Yn fyw yn syw nid oes sut?

A bydh llawen awen yt

Abl yno dy bobl ynot?

7Dangos arglwydh mowr-lwydh maith

Dy drugaredh lownwedh lwyth

Dyro i ni Duw geli goeth

Vchod ior iechydwriaeth

8Gwrandawaf gwelaf mai gwir

Am danaf eiriau naf ner

Canys fe dhengys dhuw ior

Hedhwch a gwelwch mai gwar.

Yw bobl o rwysg bu abl o rodh

Ae saint yn gowraint heb gudh

Ni throsant ni redant radh

I ffaelio yn eu ffoledh

9Agos yw iechyd gyd gynt

Hyf-naid ir sawl ai hofnent

Fel bo son am ogoniant

In tir ni ae henwi hwnt

10Trugaredh gwirionedh gwych

Ymgyfarfod nod a wnech

Cyfiownder gwedh a hedhwch

Eusoes ymgusanasoch.

11Gwirionedh o haeledh hir

I dhuw a dardha or dhaear

O fendith a chyfiownder

Edrych o nef bur-lef Bôr.

12Yno ’r arglwydh rhwydh o’r rhôd

A rydh dhaeoni ae râd

Ag or dhaear war daw ŷd

Ffraeth i chnaif i ffrwyth ai chnwd.

13Cyfiownder o hyder hardh

Lawen gael oe flaen a gerdh

Ag ef a esyd Dhuw gwrdh

Air ffel i draed ar y ffordh.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help