Psalmau 31 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y Psalm. XXXI. Devair hirion.

1Arglwydh ynod lownglod lai[s]

Er ided ir yn dhiriedais:

Na ad ym gaffael gwradwy[d]h

Oth gyfiownder hyder thwydh.

Brysia gwared tynged teg

2A gw[r]ando yn gowreindeg:

Y[m]y heb wad yma bydh

Graig kadarn ar gwr koedydh.

Am kastell i am kost llon

Im kadw rhag dim hockedion:

3Yowyd fyngbraig ffelaig ffydh

Kedernid am kadarn wyoh.

Twysa er d’enw at o[e]si

Gwirion fodh ag arwain fi

4Tynn er hynn wyf tann y rhwyd

Oes hyder ym a osodwyd.

Arab parodfab prydferth

O fwyn ior ydwyd fy nerth.

5Ith law geli ri wrth raid

Fannwyl gorchmynnaf fenaid.

Prynnaist fi prinn oes hyd fedh

O deg rann Duw gwirionedh.

6Kas genny duw kais gwan don

Goeg dwyll y rhat gwag deillion.

Kans ir arglwydh llwydh or llais,

Ior odiaeth ymdhiriedais.

7Oth drugaredh kyfedh kaf

Llon fodhus llawen fydhaf.

Gwelast newidiaist y nod

Drwy welliant fy holl drallod.

Am enaid gowlaid gwiwlym

Adwaenyd mewn adfyd ym.

8Nim keuaist dodaist yn dynn,

O gilwg yn llaw gelyn.

Gosodaist megis hedydh

A rhoist fy neudroed yn rhydh

9Bydh drugarog rhowiog rhwydh

O wirglaim wrthyf arglwydh:

Kans mewn blinder llererydh

Fy llygaid f’enaid a fydh.

Dryllia fy mola im ais

O dholur a fedhyliais;

10Ambowyd o dristyd draw

Trwy alaeth sydh yn trevliaw.

Y blynydhoedh blin oedhynt

A galar hir gwael yw ’r hynt,

Yn ol fo ballodh fy nerth

Yn anfad om poen anferth:

Am hesgyrn oedh gedyrn gynt

O baiedrych a bydrynt:

11Bum yn dhirmig singrig son

gwael anap im gelynion.

Nodwyd fi yn enwedig

Im kymdogion digon dig.

Bum i yn ofni fy nyn

Om hoed, a phawb am hedwyn;

Odhiar heol dynol don

A giliant pann im gwelon.

12Mewn ing yrwyf mewn angof

Mawr draws gamp fal marwdros gof.

Wyf debig mann lle i trigwn

I lestr kandryll hyll yw hwn.

13Klowais gablair llownair llonn

A grym orig gwyr mawrion.

Kyngor im erbyn kangawg

bann fai rhai ae hofnai rhaing.

A chydsisial fedhal foes

Dhawn funyd i dhwyn f’einioes.

14Ynod arglwydh da enwi

O serch ymdhiriedais i.

Dwedais a llefais ior llwyd,

yn odiaeth fy nuw ydwyd.

15Fy amser didrymder draw

Oth olud sydh ith dhwylaw.

Gwared draw rhag dwylaw dyn

Gwael was ymy yw ’r gelyn,

Ag rhag dynion gweigion gant

O ledwg am erlidiant.

16Towynned d’wyneb tyner

Ar dy was mae ’n vrdhas ner,

Ag achub fi gwych heb fedh

Dro gwition oth drugaredh.

17Nam gwradwydher ner am nad

Is oerni gelwais arnad.

Dinysirir enwir anoeth

Yn fud ir pwll oerdwll doeth,

18Ag yn fud drwy hud y rhawg

Kladher genau kelwydhawg.

Rai kreulon beilchion ir byd

Yn dadwrdh agyn dwedyd.

Yn dhigasog enwog iawn

Kefaill yn erbyn kyfiawn.

19Kedwaist fawr drysawr duw dri

Iaith dhyfn ir sawl sy ith ofni:

Ath ymdhiriaid enaid ion

Downus o flaen plant dynion

20Rag balchder ansyberwaith

Yn d’wydh in kudhi iawn daith.

Dirgel‐gedwi bwri i byll

Dy bobl sydh yn dy bebyll.

Rag ymryson garwdon gau

A feidr y drwg dafodau

21Bendiger ein ner yw nawdh

Yn gysson ym danghosawdh;

Garedigwedh rhyfedh rhawd

Iownfarn oe gadarn giwdawd.

22Dwedais ysbys drwy frys drwg

Iaith wael bwriwyd fi oth olwg.

Fyng wedhi pan i kriais,

Fy llef a glowaist fy llais.

23Kerwch yr arglwydh cowraint

Y rhai fiydhion son ae saint,

Keidw ’nhwy: a mawr obrwya

Feilchion a dyblygion bla.

24A obeithio Duw byth dhi-dawl

Dan wyrth bydhed yn nerthawl.

Gwnaiff yn hylwydh o rwydh rad

Yn ystig galon wastad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help