1Iacha fi keli koelwaith rhag kaswyr
A wyr keisio f’anrhaith:
A gwared o gowir-waith
Rhag gelyn im herbyn maith.
2Rag kreulōn dhyniō medhian̄ol wythryw,
O weithred an[nu]wiol,
Gwared fi mae ’n anguriol
Gwaith y dynion ffeilsion ffol.
3Brad kaid im enaid mwy ynni ganwaith
Ymgynnull arglwydhi:
Dim trais er ni weithiais i
Draw o gwan na drygioni.
4Kytvnant rhedant yn rhod annoeth-weilch,
Ni wnevthym fai hynod:
Deffro, edrych nych yw ’r nod
O fowrfost sydh im kyfarfod.
5Duw haelwych llewych y lluoedh wiwffrwyth
Deffro barn genhedloedh:
Ag na fadhau gau ar goedh
Drais oth rad draws weithredoedh.
6E fydh bob echwydh ochain a dadwrdh
Dad-redeg y plygain:
Amgylch y dref yn llefain
Kwn yw rhyw y kawn yr rhain.
7Llafnau oe genau gwanant ar vndydh
Pwy a wrendy medhant?
Y bugad siarad sorriant
A gair mawr o gwrr i mant.
8Er i twrdh dad wrdh dioedi poenus
Am i pennau chwerdhi:
Yr holl genedloedh Dhuw rhi
Yn i tir a watwori.
9Pob rhyw nerth rwydh-werth a rodhwyd yn tâd
Gennyt ti derbyniwyd:
Arnad gwiliaf naf yn wyd
In tir wedi ’n twr yd wyd.
10Duw ’n tad o gariad rhag gwg y kedyrn
Duw an keidw rhag kilwg:
Duw a rann draw dyrnau drwg
Yngelyn yn fyngolwg.
11Na ladh hwy gwir rwy gowir rol o Duw
Am nas deuall lledffol:
I gysgod twyn kynhwynol
Tarian oth wyrth tro ’nhwy ith ol.
12Parablau i genau a gair yw buchedh
Yn bechod aniwair:
Yw balchedh vnwedh anair
Melitith a geurith a gair
13Difa lladh yna anuel na bydhant
Gwybydhed pob dirgel:
Duw a reola yn dawel
Iacob ar dhaear lle dhêl.
14E fydh bob echwydh ochain a dadwrdh
Dad-redeg y plygain:
Amgylch y dref yn llefain
Kwn yw rhy wy kawn y rhain.
15A gwelwyd heb fwyd yn faith cur oedran
Yn krwydro drwy arw-daith:
Er i newyn oer nawaith
Yspiant gwiliant fi yw gwaith.
16Iti naf kanaf kwynwr a llawn-wyrth
Fy holl nerth am kyflwr:
Molaf Dhuw yw fy milwr
Mewn ymwan tarian am twr.
17Fynghadernid bis bob adeg hynod
Kanaf hynn ar osteg:
Duw yw ’mharch gyfarch gofeg
Duw fy nodhed tynged teg.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.