Psalmau 46 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y XLVI Psalm. Vnodl vnion.

1Duw yw yn gobaith Dewin a wrthiau

An nerthwr kyffredin:

I help ef oedh gynefin

Yn barawd mewn trallawd trin.

2Nid ofnwn safwn er sias cur anial

Krynned daear dhulas:

Kwymped mynydhoedh kwmpas

I lawr goror gloywfor glas.

3Er rhyferthwyf nwyf nofiaw a difrad

Dyfroedh wedi trwbliaw:

Er perigl mynydh siglaw

Drwy donnau golchiadau glaw.

4Mae yn siwr ryw dhwr a rydh wên gwedi

I giwdawd Duw ior llên:

Ir lluest seintwar llawen

Y goruchaf haelaf hên.

5Mae yndhi gweli goelion, kun eurfad

Nim kynyrfir weithion:

Yn foran Duw nef wirion

Ysydh draw yn helptaw honn.

6Pe rhôn draw rhuaw gwyr hawdh at oernad

Pob teirnas kynhyrfawdh:

Taranau Duw ae trinawdh

Tan llachar daear a dawdh.

7Duw lluoedh ys oedh yn siwr gida ni

Gadwn ef yn gyfiwr:

Duw Iaco nef deg iawn wr

Wych obaith yw ’n achubwr.

8Edrychwch gwelwch waith Duw gwar eurglod

Arglwydh nef digymmar:

Gwnaeth dhifrad bu afrad bar

Iraidh Dhuw ar y dhaear.

9Dymchwel y rhyfel rhifa iaith ofeg

Hyd eithafion pella:

Arfau ’r kadarn a dharnia

I keirr a lysg derfysg da.

10Gwastata yna ennyd ydoedh iawn

Wyf dy dhuw ath iechyd

Vwch nef a daear hefyd

Y mynni barch mewn y byd.

11Duw lluoedh ys oedh yn siwr — gyda ni,

Gadwn ef yn gyflwr:

Duw Iaco nef deg iawn wr

Wych ovaith yw ’n achubur.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help