Psalmau 102 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y CII Psalm. Devair hirion.

1Fy arglwydh mawr rhwydh am rhi

Fyng wiwdhuw cly w f’yngwedhi:

[A]ttad naf ir ffyrfafen

Deled fy llef i nef nenn.

2Na chudh d’wyneb llowndeb llif

Dhu erthwch o dhiwrthif:

Yn nydh

Kyfyngder.

synghyfyngder naf

Y dirnad gwrando arnaf:

Brysia gwrando rhuwdro rhwyf

O goel y dydh y galwyf:

3Fy-nydhiau ku darfuant

Fal mwg a chilwg o chwant.

F’esgyrn a lysg dysc pob dyn

Pand dieithr fal pentewyn.

4Yn donn am calon im cawdh

Gowir fal llyseu gwpwawdh

Ynof fal yr anghofiais:

Fwyta fy mara im ais.

5Gann lais tuchan a chân chwyrn

Fwysgaingc im cnawd glyn f’esgyrn:

6Fel pelican wal anialwch

A fflu tylluan waith ffiwch.

7Gwiliaf fal edn tô gelwais

Ar benn tûy ’n vnig oer bais.

8Kywilydh beunydh lle bôn

A lanwodh f’ngelynion:

Ynfydant tyngasant hynn

O fowrbwyll yn fy erbyn.

9Bwyteais doedais nad da

Berigl ludw fal bara:

Cymysg diod cyfnod cain

O lafur ag wylofain.

10Gann dy lid a gofidio

Ymgodais ymdeflais do:

11Fal cysgod encil giliaw

I ffau aeth dydhian nis daw.

Ac fal glaswellt o bellter

Gwywais iawn ofnais Dhuw ner:

12Parhai dithau rheidiau rhol

Y gwiwdhuw yu dragwydhol.

Ath goffa yna io wnair

O genedl i genedl a gair.

13Cyfodi trugarhei rhôn

Araith syw Dhuw wrth Seion:

Rhaid trugaredh diwedh dig

Dod mewn amser no[d]edig:

14Mae weithion dy dhynion di

Mwynion yn caru meini:

O gur tostur o tystiwch

O wyrth a llid wrth i llwch.

15A’r cenhedloedh gyhoedh gant

Dyfnwaith enw Duw ofnant:

Brenhinweilch gwar daear deg

Dy ogoniant a gwaneg:

16Pann adeilo Symldro son

F’curgledh syw f’arglwydh Seion

A phann weler sonier sant

I gû enw ae ogoniant.

17Edrychodh deuodh diwael

O radh gwych ar wedhi gwael.

Ni dhmystriodh rhannodh rhad

Yn y mann i damuniad.

18Yscrifennir rhifir haf

Yn oes cenhedloedh nesaf:

A ’r holl bobl lân aner

O flaen neb a fawl yn ner.

19O vchelder swynder fodh

I gysegr ymdhanghosodh:

Yn edrych gwelych ar goedh

Lwyr naf i lawr o nefoedh.

20Clyw yehenaid honnaid honn

Chwerw araith carcharorion:

I rydh-hau plant angau oll

O gau fowrgwymp gyfyrgoll,

21I draethu i enw yn dratheg

Yn Seion yn dirion deg;

Ae foliant loew ogoniant lem

I gwrr sail Gaerusalem.

22Pann gesglid heb lid heb lerr

Ynghyd y bobl ing hyder,

A’r teyrnasoedh kyhoedh ku

Weision aeth yw wsnaethu.

23Gostyngodh honnodh hoewnaf

Fy nerth ar fy ffordh fy naf.

Byrhaodh mewn breifgfodh bran

Fy now adhas fy nydhiau.

24Fy ner fyth na chymer fi

Ynghanol dydhiau ’nghyni:

Dy flynydhoedh da oedhynt

Blynydhoedh oes‐oesoedh ynt.

25O’r dechreuad gwastad gwâr

O Dhuw seiliaist y dha[...]ear:

Nefoedh ydynt trwy hynt tro

Da dhaliad waith dy dhwylo.

26Darwant, nêr ti a bery,

Heneidhiant o freisg-chwant fry:

Fal dilladwisg heb frisg fri

Newidiant, hwy newidi.

27Wyt tithau’r vn kûn nid kel

Ni dherfydh y-nydh oerfel:

28Meibion wyrion gweision gant

Sy haelweilch a breswyliant.

Ae hâd a wnair yn gadarn

Yn d’wydh fyth cyn dydh y farn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help